MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Trebannws Primary School,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gradd 3 (SCP 3 - 5) - £16,273 - £16,789 y flwyddyn
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 3 (SCP 3 - 5) - £16,273 - £16,789 y flwyddyn
SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2 i Weithio Mewn Dosbarth Blwyddyn 1 a 2dros dro tan 31 / 08 / 2027
27.5 awr yr wythnos am 39 wythnos
Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae'r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mrs Rhian Evans, Pennaeth ar 01792 864004.
Gallwch lawrlwytho pecyn cais o www.eteach.com neu cysylltwch â'r ysgol drwy e-bost neu drwy ffonio 01792 864004, gan ddyfynnu teitl y swydd a'r rhif cyfeirnod. Dylai ffurflenni cais wedi'u cwblhau gael eu dychwelyd i Ysgol Gymraeg Trebannws, Swansea Road, Swansea, SA8 4BL.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw
DYDD MAWRTH 5ed o Fai am 12 o'r gloch.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Trebannws
for which the ability to speak Welsh is essential