MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 01 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Gwyddoniaeth (cyfnod mamolaeth) - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 3107
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Awst 2027
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.72 - £30.04
Oriau Contract:
1.0 FTE
Dewch i ymuno â'n tîm
Athro / Athrawes
Gwyddoniaeth (cyfnod mamolaeth)
Ar gyfer mis Medi 2026 tan Gorffennaf 2027
Swydd lawn amser neu ran amser dros gyfnod mamolaeth yn unig yw hon ac edrychir am athro graddedig gydag arbenigedd mewn dysgu ar draws Cyfnod Allweddol 3 gan gyfrannu at ddysgu gwersi Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 4.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu a chyfoethogi dulliau addysgu yn yr ysgol, yng nghyd-destun eu meysydd dynodedig, gan sbarduno ein disgyblion i ddatblygu fel dysgwyr creadigol, hyderus a gwybodus.
Bydd brwdfrydedd a hyblygrwydd yn allweddol i'r swydd bwysig hon.
Mae'n hanfodol hefyd bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Am fanylion pellach ynghylch y swydd, cysylltwch â Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol ( sian.thomas@bromyrddin.org / 01267 234 829)
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 1af o Fai (canol dydd) .
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 4ydd o Fai.
Cyflog: Prif Raddfa Cyflog
Mae'n ofynnol i bob deiliad swydd gael datgeliad manwl boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Disgrifiad Swydd:
Teacher-Athro-Athrawes-Gwyddoniaeth.pdf - 218KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 01/05/2026, 12:00
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.