MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: L7 - L11 (£61,198.00 - £67,531.00)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Cynorthwyol, Cynhwysiant a Chydlynydd ADY - Ysgol Gynradd Penrhyn Dewi

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: L7 - L11 (£61,198.00 - £67,531.00)

YSGOL WIRFODDOL A GYNORTHWYIR PENRHYN DEWI

Campws Dewi

Tydewwi

SA62 6QH

Pennaeth Cynorthwyol, Cynhwysiant a Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

L7 - L11

Mae hon yn swydd amser llawn a pharhaol, a bydd yn dechrau ym mis Medi 2026, neu'n gynt os yn bosibl.

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer dysgwyr 3-16 yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi, sy'n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a'r cylch. Wedi'i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol. Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau dysgu gynradd, sydd â 12 lle, a chanolfan adnoddau dysgu uwchradd, sydd â 24 lle, ar gyfer plant ag anghenion dysgu cymhleth. Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â'r eglwys gadeiriol a'r gymuned leol. Mae'r ardal leol yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac anturus, ynghyd ag ystod eang o weithgareddau diwylliannol, cerddorol a chymdeithasol.

Mae'r ysgol yn chwilio am gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol cymwys sy'n frwd dros gynhwysiant, ac sy'n gwbl gyfarwydd â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a datblygiadau cwricwlwm cysylltiedig sy'n digwydd yng Nghymru. Mae'r corff llywodraethu yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig i weithio'n strategol fel rhan o'r Uwch-dîm Gwella, a sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni ei chyfrifoldebau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, a Deddf Cydraddoldeb 2010, ac ar gyfer diogelu. Croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd hyfforddedig sydd â phrofiad perthnasol.

Yn ogystal â phob un o'r uchod, mae arnom angen arweinydd sydd fel a ganlyn:

  • yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sydd â llwyddiant blaenorol, sy'n ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl;
  • yn frwd dros gynhwysiant, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth a'r ddarpariaeth orau bosibl i wneud y mwyaf o'u potensial;
  • yn meddu ar weledigaeth ac ysgogiad i sicrhau bod gan bob un o'n disgyblion a'n staff ddyheadau uchel, a'u bod âr gallu i lwyddo;
  • yn modelu ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad i reoli ac ysbrydoli staff wrth hyrwyddo cynhwysiant o fewn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi;
  • yn cefnogi ethos a gwerthoedd Cristnogol ysgol wirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru.

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cynorthwyo plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch, a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl, yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y cyngor. Mae diogelu yn ddyletswydd i bawb, p'un a ydynt yn gweithio i'r cyngor neu'n gweithio ar ran y cyngor.

Dylid cyflwyno ceisiadau i Dîm Adnoddau Dynol Cyngor Sir Penfro erbyn y dyddiad cau, sef 29/04/2026.

Mae'r swydd hon yn destun datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy' phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.