MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brackla Primary,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei nodi
- Cytundeb: Heb ei nodi
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Teachers Pay Scale
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro - Ysgol Gynradd Bracla (Dros Dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Teachers Pay Scale
32.5 awr yr wythnosDros dro o fis Medi 2026 hyd at fis Awst 2027.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Bracla yn dymuno penodi athro/athrawes gynradd llawn cymhelliant a chreadigol sydd â phrofiad o addysgu ar draws y cyfnod cynradd.
Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am arfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol ac sy'n gallu cael effaith y tu hwnt i'w ystafell ddosbarth. Mae angen i ymgeiswyr fod â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion yn academaidd ac o ran eu hymddygiad.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
- angerddol am addysgu a dysgu a meddu ar ddisgwyliadau uchel.
- meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gref o'r cwricwlwm cynradd.
- gallu cydweithio fel rhan o dîm.
- meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych.
- dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- dangos creadigrwydd ac arloesedd wrth gynllunio a chyflwyno gwersi.
cymryd rhan weithredol yng nghymuned yr ysgol a chefnogi ei hethos.
Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.
Cysylltwch âr ysgol i gael rhagor o fanylion am y swydd.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 24 Ebril 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Ebril 2026
Arsylwadau gwersi i'w trefnu rhwng 29 Ebrill - 8 Mai 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 12 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person