MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 3037

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Llanelli

Gradd:

Athrawon Ysgol

Cyflog:

£32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£24.72 - £30.04

Oriau Contract:

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae'r Corff Llywodraethu yn chwilio am athro/athrawes brwdfrydig, ymroddedig ac ysbrydoledig i ymuno â'n tîm addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant.

Mae'r ysgol, ysgol gymunedol ddynodedig Gymraeg, wedi'i lleoli ar gyrion Llanelli ac yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 a 11 oed. Mae'n ysgol ffyniannus gyda 461 o ddisgyblion ar y gofrestr a chydnabyddiaeth uchel o fewn y gymuned leol.

Yn ystod arolygiad Estyn ym mis Tachwedd 2024, cafodd yr ysgol ei ganmol am ei chymuned gynnes a chynhwysol, lle mae lles disgyblion a staff yn flaenoriaeth, gyda safonau uchel o ran ymddygiad a dysgu.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n gallu:
  • Darparu addysgu o ansawdd uchel a chefnogi datblygiad holl disgyblion
  • Gweithio'n agos gyda'r tîm addysgu a'r Pennaeth i gefnogi rhaglenni dysgu a lles
  • Hyrwyddo safonau uchel o gyrhaeddiad, ymddygiad a lles disgyblion
  • Cynnal ac ehangu ethos cryf Cymreig yr ysgol, gan roi'r Gymraeg a diwylliant Cymru ar ganol pob gweithgaredd

Mae'r ysgol yn cynnig:
  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
  • Tîm staff profiadol ac ymroddedig
  • Disgyblion brwdfrydig a pharchus
  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad mewn arweinyddiaeth

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â'r ysgol ar 01554 750081. Croeso cynnes i ymgeiswyr ymweld cyn cyflwyno cais.

Yn gywir,
Mr M. Bassett
Cadeirydd y Corff Llywodraethu

Dyddiad cau: 21/4/2026

Dyddiad rhestr fer: 27/4/2026

Dyddiad arsylwi gwersi: 5/5/2026 a 7/5/2026

Dyddiad cyfweliad: 8/5/2026

Disgrifiad Swydd:

Proffil Swydd Athro Athrawes YGDS.pdf - 148KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

8 Mai 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 21/04/2026, 09:00

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.