MANYLION.
  • Lleoliad: Afon-y-Felin Primary,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £13.45 per hour
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol - Ysgol Gynradd Afon Y Felin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £13.45 per hour

8.20 awr yr wythnos (08:20-09:15 & 14:50-15:35)

Tymor yr Ysgol

Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dîm o ddynion a menywod ymroddedig ag ysbryd cymunedol sy'n ymgymryd â'r rôl bwysig o sicrhau diogelwch plant sydd ar eu ffordd i'r ysgol ac oddi yno.

Rydym yn awyddus i glywed gan aelodau'r gymuned sy'n gallu dangos ymwybyddiaeth o draffig, ymdeimlad o gyfrifoldeb ac yn awyddus i ddangos ymroddiad wrth wneud swydd bwysig iawn i wneud ffyrdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i gerddwyr.

Mae'r swydd yn cynnwys gweithio am adegau penodol cyn ac ar ôl amseroedd dechrau a gorffen ysgolion.

Mae'n bwysig eich bod yn gallu gweithio ar bob diwrnod pan fydd yr ysgolion ar agor. Darperir gwisg i'ch diogelu rhag y tywydd.

A chithau'n Hebryngwr Croesfannau Ysgol, byddwch yn stopio traffig i gynorthwyo cerddwyr i groesi'r ffordd, chwilio am beryglon posibl ger yr ardal groesi, a helpu i addysgu plant ar faterion diogelwch ffyrdd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfarch y rhai sy'n dewis defnyddio'r cyfleuster croesi drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Diogelwch Ffyrdd ar 01656 642249.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 15 Ebrill 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 16 Ebrill 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 23 Ebrill 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person