MANYLION.
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £21.96 / awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 03 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Peirianneg Drydanol Aseswr Cyfadran

Coleg Sir Gar

Cyflog: £21.96 / awr

Peirianneg Drydanol Aseswr Cyfadran
Application Deadline: 3 April 2026

Department: Peirianneg

Employment Type: Dim Oriau

Location: Campws Graig

Reporting To: Tîm Rheoli'r Gyfadran

Compensation: £21.96 / awr

DescriptionMae hon yn rôl gyffrous sydd wedi'i chynllunio i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflwyno ac asesu NVQs yn y gweithle a rhaglenni prentisiaeth ar draws y gyfadran.

Byddwch yn darparu cymorth trwy sicrhau bod ansawdd rhaglenni yn bodloni'r safonau gofynnol yn fewnol ac yn allanol hefyd er mwyn darparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau oll i'n dysgwyr.

Rhaid i ddeilydd y swydd ddangos menter, sgiliau trefniadol da a sgiliau rheoli amser cadarn. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio i lwyth achosion y cytunwyd arno ac fel y cyfryw gofynnir iddo/iddi weithio'n helaeth oddi ar y safle i ateb galwadau'r rôl. Cytunir nifer union y llwyth achosion gyda Thîm Rheoli'r Gyfadran a'r Uwch IQA a bydd yn amrywio yn ôl dosbarthiad daearyddol y prentisiaid a'r teithio y mae hyn yn ei olygu, ond bydd o gwmpas rhwng 45 a 50 o ddysgwyr.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Cynllunio, monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr yn erbyn eu fframwaith
  • Cysylltu â chyflogwyr a dysgwyr ynglŷn â chynnydd dysgwr
  • Cynorthwyo gyda rheolaeth hyfforddiant penodedig yn y gweithle a / neu'r coleg a monitro cyflwyniad y rhaglen brentisiaeth
  • Cysylltu â rheolwyr, athrawon, aseswyr a dysgwyr i sicrhau cwblhau a chyflawni'n effeithiol
  • Cynnal asesiad o'r dysgwyr yn eich galwedigaeth arbenigol, ar y safle ac yn y coleg
  • Gweithio gyda llwyth achosion a neilltuwyd i chi o hyd at o leiaf 45 o ddysgwyr neu brentisiaid

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hanfodol:
  • NVQ Lefel 3-5 neu uwch
  • 3 blynedd o brofiad diwydiannol perthnasol o fewn maes galwedigaethol
  • Dyfarniadau Aseswr
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Gallu defnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft WORD, EXCEL, pecynnau pwrpasol a rhaglenni cwmwl
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Trwydded yrru gyfredol a'ch cludiant eich hun


Dymunol:

  • IOSH Rheoli'n Ddiogel
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n dangos cymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf am arferion, cynnyrch a chyfarpar y diwydiant

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein