MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 26 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu - Lefel 1 - Ysgol GG Casblaidd - Achlysurol
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Lefel 1 - Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-blaidd - AchlysurolDIBEN Y SWYDD
Gweithio o dan gyfarwyddyd uniongyrchol staff addysgu / staff uwch, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth neu unrhyw ardal arall o'r ysgol yn ôl y gofyn, i gynorthwyo mynediad at ddysgu gan bob disgybl, gan gynnwys y rhai y nodwyd bod ganddynt anghenion addysgol arbennig, a darparu cymorth cyffredinol i'r athro wrth reoli disgyblion a'r ystafell ddosbarth.
CYFRIFOLDEBAU
Cymorth i ddisgyblion
- Rhoi sylw i anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol cysylltiedig, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol, glanweithdra, cymorth cyntaf a lles.
- Goruchwylio a chynorthwyo disgyblion, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad at ddysgu, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig.
- Sefydlu cydberthnasau da â disgyblion, gan fod yn esiampl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
- Hyrwyddo'r broses o gynnwys a derbyn pob disgybl.
- Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad yr athro.
- Annog disgyblion i weithio'n annibynnol a rhoi adborth fel y bo'n briodol.
- Annog disgyblion i ymddwyn mewn ffordd briodol yn unol â pholisi sefydledig yr ysgol.
- Annog disgyblion i ddatblygu hunanddisgyblaeth, hunan-barch ac annibyniaeth.
- Cynorthwyo i weithredu cynlluniau addysg unigol / cynlluniau ymddygiad unigol / rhaglenni gofal personol.
- Paratoi'r ystafell ddosbarth yn ôl y cyfarwyddyd ar gyfer gwersi a thacluso ar y diwedd, a helpu i arddangos gwaith y disgyblion.
- Bod yn ymwybodol o broblemau / cynnydd / cyflawniadau disgyblion ac adrodd i'r athro fel y cytunwyd.
- Cadw cofnodion y disgyblion yn unol â'r gofyniad.
- Cefnogi'r athro wrth reoli ymddygiad disgyblion yn unol â pholisi sefydledig yr ysgol, ac annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain.
- Gweinyddu profion cynnydd rheolaidd yn ôl y gofyn gan yr athro.
- Casglu / adrodd gwybodaeth gan/i rieni / gofalwyr yn ôl y cyfarwyddyd.
- Darparu cymorth clerigol / gweinyddol, e.e. llungopïo, teipio, ffeilio, paratoi arddangosfeydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth, casglu arian ac ati.
- Cynorthwyo disgyblion i ddeall cyfarwyddiadau ac ymgymryd â gweithgareddau dysgu yn ôl y cyfarwyddyd gan yr athro.
- Cynorthwyo disgyblion mewn perthynas â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol yn ôl y cyfarwyddyd gan yr athro.
- Cynorthwyo disgyblion wrth ddefnyddio TGCh mewn gweithgareddau dysgu yn ôl y cyfarwyddyd gan yr athro.
- Paratoi, cynnal a defnyddio offer / adnoddau yn ôl y cyfarwyddyd gan yr athro, a chynorthwyo disgyblion i'w defnyddio.
- Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â nhw, gan adrodd yr holl bryderon i unigolyn priodol.
- Bod yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu llesiant plant a phobl ifanc yr ydych yn gyfrifol amdanynt, neu'n dod i gysylltiad â nhw.
- Gwerthfawrogi a pharchu barn ac anghenion plant a phobl ifanc.
- Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal at gyfleoedd i ddysgu a datblygu.
- Cyfrannu at ethos / gwaith / nodau cyffredinol yr ysgol.
- Gwerthfawrogi a chefnogi rôl y gweithwyr proffesiynol eraill.
- Mynd i gyfarfodydd perthnasol yn ôl y gofyn.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu a datblygu perfformiad eraill yn ôl y gofyn.
- Cynorthwyo i oruchwylio disgyblion y tu allan i oriau'r gwersi, gan gynnwys cyn ac ar ôl oriau'r ysgol ac amser cinio.
- Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'l y gofyn.
Cymwysterau a phrofiad
Hanfodol
- Dylid gallu dangos safon resymol o addysg gyda hyfedredd mewn llythrennedd a rhifedd hyd at lefel TGAU neu gyfwerth.
- Dylai fod gan bob ymgeisydd hefyd brofiad o weithio gyda phlant o oedran perthnasol, neu ofalu amdanynt, mewn amgylchedd cyflogedig, gwirfoddol neu ddomestig, a bydd angen iddynt allu dangos diddordeb mewn datblygiad plant ac mewn ystod eang o faterion yn ymwneud âu haddysg a'u lles.
- Y gallu i uniaethu'n dda â phlant ac oedolion.
- Y gallu i ymddwyn mewn modd proffesiynol drwy'r amser.
- Byddai parodrwydd i ymgymryd â chymhwyster cydnabyddedig / perthnasol, fel NVQ 2 ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu, neu gwblhau Rhaglen Sefydlu i Gynorthwywyr Athrawon AdAS, yn fanteisiol.
- Gwybodaeth briodol am gymorth cyntaf cyffredinol.
- Dealltwriaeth sylfaenol a defnydd o dechnoleg, h.y. cyfrifiadur, fideo, llungopïwr.
-
Dyddiad cau: 26 Mawrth
Cyfweliadau: yr wythnos yn cychwyn ar 20 Ebrill
Cyfeiriwch at y swydd-ddisgrifiad uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol