MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Pay Scale Within L19 £82,067 - L25 £95,058
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 30 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within L19 £82,067 - L25 £95,058
YSGOL WIRFODDOL A GYNORTHWYIR PENRHYN DEWITyddewi
Sir Benfro
SA62 6QH
Yn ofynnol o fis Medi 2027:
PENNAETH
L19 i 25 (£80,751-£93,534 y flwyddyn ar hyn o bryd)
Efallai y bydd pecyn adleoli hael ar gael i'r sawl a benodir,
yn amodol ar wirio ei gymhwysedd.
Mae Bwrdd y Llywodraethwyr yn gwahodd ceisiadau gan arweinwyr ysgolion a all ddangos hanes cryf o lwyddiant ar gyfer swydd barhaol, amser llawn Pennaeth Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi.
Yr unig ysgol ffydd pob oed yn y sir, ysgol yr Eglwys yng Nghymru 3-16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi, sy'n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi, yr ardaloedd cyfagos a Sir Benfro ehangach. Wedi'i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar dri champws yn Nhyddewi a Solfach ac mae wedi sefydlu cysylltiadau cryf â'r gymuned leol ac yn ddiweddar mae wedi agor y Ganolfan Adnoddau Dysgu pob oed gyntaf yn Sir Benfro.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda chorff llywodraethu cefnogol a thîm staff sy'n rhannu ymrwymiad cryf tuag at ddarparu profiadau addysgol o ansawdd uchel i bob disgybl o fewn ethos cefnogol. Bydd ef/hi yn bodloni'r canlynol:
- dangos ymrwymiad cryf i ethos Cristnogol yr ysgol;
- rhannu gweledigaeth gymhellol ar gyfer addysg mewn ysgol pob oed;
- hyrwyddo diwylliant Cymru a sgiliau dwyieithog disgyblion yn effeithiol; a pharodrwydd i ymgysylltu â natur ddwyieithog y gymuned leol;
- mynegi dyheadau uchel ar gyfer ein myfyrwyr, staff a rhieni;
- dangos sgiliau arwain a chyfathrebu rhagorol.
Croesewir ymweliadau âr ysgol gan ddarpar ymgeiswyr a gwahoddir ymgeiswyr i gysylltu â Mrs Sian Churchill, Rheolwr Busnes yr Ysgol, drwy e-bost churchills11@hwbcymru.net i drefnu dyddiad sy'n gyfleus i bawb cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Llun, 30 Mawrth 2026 (11.59pm). Dylid cyflwyno ceisiadau drwy'r ddolen i Adran Adnoddau Dynol Cyngor Sir Penfro.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.