MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy - Ysgol Gymraeg Rhydaman

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2953

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Rhydaman, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o:

L7 - £61,198

Cyflog i:

L11 - £67,531

Oriau Contract:

Llawn amser

Dewch i ymuno â'n tîm

Swydd Dirprwy Bennaeth

Ysgol Gymraeg Rhydaman

Ysgol gymunedol a phenodedig Gymraeg yw Ysgol Gymraeg Rhydaman, wedi ei lleoli yng nghalon tref Rhydaman ac yn darparu addysg i ddisgyblion 4-11 oed. Mae'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal yn golygu bod niferoedd yn llawn bob blwyddyn, ac ar hyn o bryd mae 278 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Mae cyfle cyffrous wedi dod i ymuno gyda'n tîm arbennig a chyfeillgar o staff fel Dirprwy Bennaeth yn yr ysgol. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig, ysbrydoledig a phositif i fod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Rhydaman - rhywun a fydd yn cydweithio'n llwyddiannus gyda'r Pennaeth, y Corff Llywodraethol a'r staff cyfan i gyd-arwain ein cymuned ysgol i lwyddiant pellach gan barhau i anelu at ragoriaeth. Byddwch yn ymuno â thîm gweithgar a chefnogol iawn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Ymarferydd dosbarth rhagorol sy'n ymrwymedig i godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion ac sy'n gallu rheoli, hyrwyddo a sicrhau dysgu ac addysgu o safon uchel ar draws yr ysgol gyfan;
  • Gallu dangos gweledigaeth glir, arweinyddiaeth ysbrydoledig a chyfeiriad strategol mewn partneriaeth â'r Pennaeth, disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach;
  • Gallu hunanwerthuso'n effeithiol iawn, gan adnabod cryfderau a meysydd gwella, pennu'r ffordd ymlaen a monitro cynnydd i sicrhau datblygiad parhaus;
  • Yn gallu cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am adolygu a sicrhau datblygiad pellach Cwricwlwm i Gymru ochr yn ochr â'r Pennaeth a'r staff;
  • Yn frwdfrydig i chwarae rhan weithredol ym mywyd ehangach yr ysgol;
  • Dirprwyo yn absenoldeb y Pennaeth.

Mae Ysgol Gymraeg Rhydaman yn ymrwymedig i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc ac mae disgwyl i'n holl staff gefnogi'r ymrwymiad craidd hwn.

Croesewir ymweliadau â'r ysgol. Os hoffech ymweld â'r ysgol neu drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Cerys Gruffydd.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod o Gyngor y Gweithlu Addysg.

Mae ein Corff Llywodraethol yn edrych ymlaen i dderbyn eich cais ac yn dymuno pob llwyddiant i chi.

Dyddiad Cau: 5yh dydd Gwener, 10 Ebrill 2026

Llunio rhestr fer: Dydd Iau, 16 Ebrill 2026

Arsylwadau Gwersi: Dydd Iau a Gwener, 23 a 24 Ebrill 2026

Cyfweliadau: Dydd Mercher ac Iau, 29 a 30 Ebrill 2026

Manylion Cyswllt:

cerys.gruffydd@rhydaman.ysgolccc.cymru

01269 593081

www.ysgolgymraegrhydaman.cymru

Disgrifiad Swydd:

Pecyn Gwybodaeth Swydd Dirpwy YGRh 2026.pdf - 637KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

30 Ebrill 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 10/04/2026, 17:00

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.