MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: £33,731 - £51,942
Athro (M1-M6)Canolfan Adnoddau Dysgu Cynradd
Lwfans Anghenion Dysgu Ychwanegol
Parhaol
I ddechrau 1 Medi 2026
Mae llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Neyland am benodi athro profiadol cymwysedig i weithio yng nghanolfan adnoddau dysgu newydd ein hysgol gynradd.
Rydym yn llawn cyffro i hysbysebu am aelod o staff i ymuno â'n tîm canolfan adnoddau dysgu gofalgar a chefnogol. Mae hwn yn gyfle anhygoel i fod yn rhan o ganolfan adnoddau dysgu newydd sbon.
Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at sefydlu tîm o weithwyr proffesiynol llawn cymhelliant a fydd yn cydweithio i godi safonau ar bob lefel. Rhaid i'r ymgeisydd greu amgylchedd meithringar, cadarnhaol, lle mae disgyblion yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial. Bydd hyfforddiant arbenigol ar gael.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn ymarferwyr dosbarth rhagorol sydd yn gallu gwneud y canlynol:
- Arwain a datblygu rhaglenni canolfan adnoddau arbenigol yn effeithiol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cymhleth
- Gwahaniaethu a hwyluso dysgu i'r safonau uchaf
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phob dysgwr, eu teuluoedd, a thîm y ganolfan adnoddau dysgu
- Creu amgylchedd dosbarth cefnogol, croesawgar a threfnus
- Arddangos bod ganddynt yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r diwygiadau ADY a wnaed yn 2018 a'r cod ymarfer
Gallwn gynnig cymuned ysgol gynnes, feithringar sy'n seiliedig ar ethos cryf a chefnogaeth tîm o staff a llywodraethwyr ymroddedig a gweithgar. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o'r ymarfer yn ein hysgol ac i lywio'r ymarfer hwnnw.
Nododd ein harolygiad llwyddiannus diweddaraf gan Estyn (Mawrth 2023) lawer o gryfderau:
Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn fan lle mae disgyblion, staff a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cefnogi. Cryfder nodedig yn yr ysgol yw'r ethos gofalgar cryf a'r ymddiriedaeth a'r parch rhwng disgyblion a staff. Mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu diwylliant cadarnhaol o waith tîm ymhlith y staff a'r gymuned leol. Mae'r ysgol yn darparu ystod gyfoethog, eang a chytbwys o brofiadau dysgu a darpariaeth ychwanegol.
Yn ein hysgol, rydym yn siarad am 'fynd yr ail filltir' ac yn dangos hyn yn weithredol i'n plant, ein teuluoedd a'n cymuned. Mae'n hollbwysig bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o hyn ac yn arddangos sgiliau i ddod yn rhan weithredol o'n hethos cadarnhaol a gofalgar wrth ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i'n disgyblion.
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am y rôl, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch âr pennaeth ar HewittC30@Hwbcymru.net .
Edrychwch hefyd ar wefan ein hysgol https://neylandcommunity-school.co.uk/home a'n tudalen Facebook i ddysgu mwy am ein hysgol effeithiol.
Dyddiad cau: 16 Ebrill
Llunio'r rhestr fer: 17 Ebrill
Arsylwi dosbarth: Dydd Mercher 29 Ebrill
Cyfweliadau (yn amodol ar wahoddiad yn dilyn arsylwi): Dydd Iau 30 Ebrill
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.