MANYLION
  • Lleoliad: Pwllheli,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,128 - £29,119 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Uwch Gynorthwyydd Cefnogi Arholiadau

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £27,128 - £29,119 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd -

Mae'r Uwch Gynorthwyydd Cefnogi Arholiadau'n gyfrifol am ddarparu cefnogaeth tîm ar gyfer arholiadau allanol a mewnol yn unol â'r rheoliadau a bennwyd gan y Cydgyngor Cymwysterau, y Cyrff Dyfarnu a'r Sefydliadau Partner, ac yng ngweithdrefnau rhwydwaith Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cynnal arholiadau, ac am gefnogi'r amserlenni a'r cydlynu o brofi ar-lein ar draws holl safleoedd Coleg Meirion-Dwyfor. Bydd deiliad y swydd hefyd yn dirprwyo dros Swyddog Arholiadau Meirion-Dwyfor fel sy'n ofynnol.

Fe fydd deilydd y swydd yn gyfrifol am drefnu'r gwaith papur sy'n gysylltiedig ag arholiadau, cydlynu cyfleusterau profi ar-lein a lledaenu gwybodaeth, ateb ymholiadau ac ymdrin â materion yn ymwneud â chynnal arholiadau ac asesiadau gyda staff, myfyrwyr, rhieni/gofalwyr a Chyrff Dyfarnu. Sicrhau bod yr holl ddata cyrhaeddiad yn cael ei gasglu a'i goladu drwy ddulliau electronig (lle ar gael) a'i brosesu i ddyddiadau cau a gytunwyd.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/091/25

Cyflog
£27,128 - £29,119 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
05 Ion 2026
12:00 YH(Ganol dydd)