MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,882 - £28,595 (yn ogystal â Lwfans Hyblygrwydd o 10%)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,882 - £28,595 (yn ogystal â Lwfans Hyblygrwydd o 10%)
Swyddog CyfleusterauSwydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos
Dyma gyfle i ddod yn rhan o dîm y Swyddogion Cyfleusterau. Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn HiVE (Glynebwy) ond bydd yn cynnwys darparu gorchudd, yn ôl yr angen ar safleoedd Campws Coleg eraill.
Mae’r rôl yn amrywiol ond bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys datgloi a chloi eiddo’r coleg; cynnal ystod o brofion, er enghraifft goleuadau argyfwng a larymau tân; symud celfi, gosod ystafelloedd dosbarth, neuaddau arholiadau; cludo pecynnau o amgylch y safle, cysylltu â chontractwyr. Ymgymryd â thasgau glanhau, diogelwch a chynnal a chadw cyffredinol. Darperir hyfforddiant ar bob agwedd ar y swydd.
Mae’n rhaid i chi feddu ar wybodaeth weithio dda am Reoliadau Iechyd a Diogelwch a sut i’w cymhwyso yn y gweithle. Dylech chi allu gyrru bysiau mini’r campws neu fod yn barod i gael hyfforddiant.
Mae Swyddogion Cyfleusterau yn dod i gyswllt â dysgwyr, aelodau staff ac aelodau o’r cyhoedd drwy gydol eu diwrnod gwaith ac mae’n hanfodol eu bod bob amser yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn barod eu cymwynas.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) os yn briodol.
Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd swyddi darlithio yn gofyn am gymhwyster addysgu (e.e. TAR) neu barodrwydd i ennill un gyda chyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn ofynnol o dan eich contract cyflogaeth a chofrestriad CGA.
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sail i hyn a byddwn yn glynu wrthi ar bob cam o’r broses recriwtio.
Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi’u hymgorffori yn ein hymarferion gwaith o ddydd i ddydd gyda’n dysgwyr, ein cydweithwyr a’n partneriaid.
Rydym yn gwybod mai’r timau mwyaf llwyddiannus yw’r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i’n diwylliant yn Coleg Gwent. Rydym yn dymuno i bob unigolyn deimlo’n hyderus, teimlo’n falch a theimlo ei fod yn gallu bod ei wir hunan yn y gwaith.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy chwalu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i gyrraedd ei botensial. I sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, croesawn geisiadau, yn benodol, gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl dduon, pobl Asiaidd, a phobl o leiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anneuaidd a phobl gydag anableddau. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i greu gweithle sydd, nid yn unig, yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr, ond sydd, hefyd, yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd eraill a phawb, beth bynnag eu hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (un rhyw neu ddau ryw), nam neu gyflwr meddygol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, yn unol â’n Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymlynu wrth y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Enabled, Men’s Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance) yn allweddol o ran cefnogi’r gwaith hwn a darparu cymorth i gymheiriaid.
Beth sy’n dod â ni ynghyd?
Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o gynhwysiant sy’n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn.
I gefnogi’r Coleg i fod yn gymuned sy’n llawn parch, mae gennym grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwrandewch ar ein Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn siarad am y rhesymau eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae eich lles o bwys
Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno sicrhau y gallwch chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a chyrraedd eich potensial llawn. Mae rhaglen o weithgareddau lles drwy gydol y flwyddyn ac mae’r ap Headspace ar gyfer yr holl staff yn sail i hynny. Mae’n cynnwys detholiad amrywiol o fyfyrdodau ar gyfer anghenion dechreuwyr a’r rhai mwy profiadol. Hefyd, mae gennym ni Bartneriaid sy’n hyrwyddwyr iechyd meddwl hyfforddedig a mynediad cymorthdaledig at gampfa. Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy’n cefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pawb.
Dyddiad Cau: 07/01/26
Dyddiad Cyfweliad: 16/01/26