MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Heb ei Nodi
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Heb ei Nodi
Ynglŷn â'r RôlMae'r ysgol yn awyddus i benodi glanhawr i weithio fel rhan o dim glanhau ein ysgol. Mae'r swydd i gychwyn ym mis Ionawr 2026. Mae hon yn swydd barhaol ac mae disgwyl y byddech yn gweithio pob diwrnod yn ystod y tymor ysgol. Nid yw'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
8.75 awr yr wythnos, 3.30yh tan 5.15yh, Dydd Llun tan Ddydd Gwener, 39 wythnos y flwyddyn.
G02 £24,413 per year £4,943 (pro rota)
Disgrifiad Swydd
Mae'r ystod o waith a wneir gan y staff glanhau yn cynnwys glanhau'r holl ystafelloedd, toiledau, coridorau, swyddfeydd a mannau eraill o'r fath sy'n cael eu defnyddio ar gyfarwyddyd y Pennaeth/Gofalwr. Bydd disgwyl i chi:
• Gwneud gwaith i'r safon ofynnol yn unol â chyfarwyddyd y Pennaeth/Gofalwr
• Cydweithio â'r glanhawyr eraill a staff yr ysgol
• Cydymffurfio ag arferion iechyd a diogelwch y Cyngor
• Defnyddio offer a deunyddiau glanhau yn y modd cywir, gan sicrhau defnydd diogel a storio
• Cyflawni unrhyw gyfarwyddiadau gwaith rhesymol eraill a gofynnir gan y Pennaeth/Gofalwr
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth am ragor o wybodaeth. Maw angen DBS ar gyfer y swydd hon.
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.
•
Amdanom Ni
Ysgol Gynradd Gymunedol Cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Bryn Tabor sy'n gwasanaethu pentref Coedpoeth a'r ardaloedd cyfagos. Rydym yn falch iawn o'r gymuned hapus, ofalgar a chroesawgar yn yr ysgol.
Ysgol Bryn Tabor is a Welsh Medium Community Primary School serving the village of Coedpoeth and surrounding areas. We are very proud of the happy, caring and welcoming community in the school.