MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,185 - £25,583 y flwyddyn pro rata (G02)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwydd Dysgu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £25,185 - £25,583 y flwyddyn pro rata (G02)

Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Conwy - Ysgol Ddraig Goch

Mae Canolfan Addysg Conwy yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i gefnogi addysgu disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc a'u cefnogi, yn ddelfrydol, o fewn fframwaith Uned Cyfeirio Disgyblion neu ddarpariaeth arbenigol.

Disgwylir iddynt gefnogi mynediad at ddysgu a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro wrth reoli myfyriwr yn yr ystafell ddosbarth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyflogi ar gontract yn unol â thelerau ac amodau cynorthwywyr addysgu.

Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofyniad y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau cyflogaeth.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Katie Etches, Pennaeth Cynorthwyol ( Katie.Mason@csis.conwy.sch.uk / 01492 575280)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.