MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa G04 NJC pwynt 8-11 £17,935 - £18,816 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 Parhaol - Ysgol Swn y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G04 NJC pwynt 8-11 £17,935 - £18,816 y flwyddyn

YSGOL SŴN Y DON

Penmaenrhos, Bae Colwyn LL29 9LL

Rhif Ffon: (01492) 577290

Pennaeth: Mrs Suzanne Fox

Yn eisiau mor fuan â phosib

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 3 PARHAOL

Mae Llywodraethwyr Ysgol Sŵn y Don yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr brwdfrydig ar gyfer y swydd uchod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y dosbarth o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes, cefnogi addysgu disgyblion a darparu cefnogaeth gyffredinol i reoli'r disgyblion a'r dosbarth. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am Ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr dybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English