MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 51,125 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Ymgynghorol Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 51,125 *
Ynglŷn â'r rôlRydym yn chwilio am Athro Ymgynghorol ADY creadigol a brwdfrydig, sydd â phrofiad blaenorol o arwain a gweithio fel cydlynydd ADY, i ymuno â'r tîm ADY, Lles a Chynhwysiant yng Ngheredigion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Gweithio gydag ysgolion, disgyblion a rhieni, gan gynnig arweiniad a chyngor.
- Gweithio gyda disgyblion i nodi a darparu strategaethau a chyngor ar ddiwallu eu hanghenion dysgu.
- Cefnogi ysgolion i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod ADY Cymru.
- Cydweithio gyda chydlynwyr ADY a staff cymorth yn ein hysgolion a'n lleoliadau arbenigol.
- Cefnogi'r dull Ymateb Graddedig, gan sicrhau ymyriadau amserol a phriodol.
- Cydweithio ag aelodau o'r tîm ADY, Cynhwysiant a Lles a'r tîm Gwella Ysgolion yng ngwasanaethau ysgolion Ceredigion.
- Cydweithio ag asiantaethau eraill yn ôl yr angen.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Cathryn James, Uwch Athrawes Ymgynghorol: cathryn.james@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy