MANYLION
  • Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 26,403 - 27,694 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Therapi Lleferydd

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 26,403 - 27,694 *

Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn chwilio am gynorthwyydd cymorth therapi lleferydd ac iaith (SALTSA) i ymuno â'r tîm ADY ar sail dros dro i gwmpasu cyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Ynglŷn â'r rôl

Bydd y rôl yn cynnwys darparu sesiynau therapi iaith a lleferydd i ddisgyblion unigol, dan arweiniad y Therapydd Iaith a Lleferydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig. Rhagwelir y bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno'n bennaf wyneb yn wyneb o fewn ysgolion cynradd Ceredigion.

O ddydd i ddydd byddwch yn:
  • Teithio rhwng nifer o ysgolion ledled Ceredigion;
  • Darparu cefnogaeth unigol i ddisgyblion penodol sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith;
  • Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol i ddarparu cefnogaeth allgymorth i ddisgyblion sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith;
  • Sefydlu perthnasoedd adeiladol â'r disgyblion a rhyngweithio â nhw yn ôl anghenion unigol;
  • Sefydlu perthnasoedd adeiladol â rhieni/gofalwyr;
  • Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athro/athrawes a'r therapydd lleferydd ac iaith ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion ac ati;
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau i atgyfnerthu rhaglenni Therapi Lleferydd ac Iaith;
  • Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd a hyfforddiant perthnasol a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad yn ôl yr angen.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â:
  • Profiad o weithio gyda neu ofalu am blant oedran ysgol gynradd;
  • Sgiliau TGCh effeithiol i gefnogi dysgu;
  • Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol;
  • Y gallu i uniaethu'n dda â phlant ac oedolion;
  • Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall rolau a chyfrifoldebau a'ch safle eich hun o fewn y rhain;
  • Y gallu i deithio'n annibynnol;
  • Rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg.

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Cathrin Edwards ar Cathrin.Edwards@ceredigion.gov.uk.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth T îm Ceredigion

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy