MANYLION
  • Lleoliad: Powys,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth: 23 – 29
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol Uwchradd Y Drenewydd)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth: 23 – 29

Pennaeth (Ysgol Uwchradd Y Drenewydd)
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Uwchradd Y Drenewydd
Ysgol: Ysgol Uwchradd Y Drenewydd
Lleoliad: Powys
Tymor y Contract: Parhaol
Graddfa Arweinyddiaeth: 23 - 29
Oriau: Llawn amser
Hysbyseb wedi'i chyhoeddi: Tachwedd 7fed, 2025
Dyddiad cau'r hysbyseb: Tachwedd 28ain, 2025
Creu rhestr fer: Rhagfyr 2il, 2025
Cyfweliad: Rhagfyr 8fed a 9fed, 2025
Dyddiad Dechrau: Ebrill 13eg, 2026 (neu'n gynharach os yn briodol)
Rydym yn chwilio am arweinydd uwch creadigol ac ysbrydoledig sydd:
• Yn gallu codi, herio a chefnogi dyheadau pob disgybl ac aelod o staff.
• Yn fodel rôl rhagorol.
• Yn meddu ar sgiliau addysgu i ysgogi disgyblion i ddysgu a gwneud cynnydd.
• Yn greadigol ac yn frwdfrydig.
• Yn gallu gweithio o fewn timau deinamig, blaengar ac yn gallu eu creu.
• Yn gosod disgwyliadau uchel i ddisgyblion, staff ac iddo'i hun.
• Yn dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol.
• Yn cymryd cyfrifoldeb dros greu cyfeiriad strategol.
• Yn gallu arwain y ffordd i symud yr ysgol ymlaen tuag at ragoriaeth flaenllaw yn y sector.
• Yn meddu ar hanes o lwyddiant wrth ddatblygu a gweithio gydag eraill.
• Yn gallu cyfrannu at ac egluro polisïau'r ysgol a phrosesau hunanwerthuso.
• Yn sicrhau atebolrwydd ynddo'i hun ac eraill.
• Yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd dros ddatblygu ein ffocws cymunedol.
• Yn gallu rheoli cyllid yr ysgol a chyllidebau anodd yn hyderus.
Rydym yn cynnig:
• Amgylchedd dysgu cadarnhaol a llwyddiannus sy'n parhau i dyfu.
• Tîm ymroddedig o staff sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n disgyblion.
• Disgyblion brwdfrydig ac awyddus i ddysgu.
• Dysgu proffesiynol parhaus.
• Cymorth a her i gyrraedd y safonau uchaf posibl