MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Teacher's Pay Scale + TLR 2.1 (TLR Allowance £3,590)
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Ymarferydd Arweiniol Cyfadran y Dyniaethau - Ysgol Gorllewin Mynwy
Torfaen Local Authority
Cyflog: Teacher's Pay Scale + TLR 2.1 (TLR Allowance £3,590)
Dyddiad Dechrau: Ionawr 2026 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Ymarferydd Arweiniol deinamig sy'n llawn ysbrydoliaeth i ymuno ag arweinwyr cyfadran y Dyniaethau. Mae gan y Maes Dysgu a Phrofiad hwn hanes cadarn o ran canlyniadau disgyblion, mae ganddo adnoddau da a thîm staff profiadol iawn ac mae wedi ei leoli mewn cyfres o ystafelloedd dosbarth a ailwampiwyd yn ddiweddar. Mae'r rôl yr Ymarferydd Arweiniol o fewn ein strwythur yn swydd arwain ac mae'r ffocws sylfaenol ar ddatblygu addysgu a dysgu o fewn cyfadrannau. Mae gan ein Hymarferwyr Arweiniol y dasg o yrru arloesi mewn addysgeg ar draws eu cyfadrannau a'r ysgol yn ehangach. Felly, disgwylir iddynt fod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â'r ymchwil addysgol diweddaraf ac wrth chwilio am gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol yn fewnol ac yn allanol. Rydyn ni'n chwilio am athro rhagorol sydd ag ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o'r ansawdd uchaf ar gyfer y disgyblion yn eu gofal; a'r gallu i ysgogi pob disgybl i lwyddo yn y Dyniaethau. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y potensial i ddod yn arweinydd ysbrydoledig hefyd, a all ysgogi a chefnogi eu tîm i gofleidio newid yn llwyddiannus. Mae profiad o addysgu'r Dyniaethau ar draws yr ystod oedran a gallu 11-16 oed yn hanfodol a byddai cyfraniad blaenorol at weithgarwch arweinyddiaeth ganol hefyd yn fanteisiol, er nad yw'n hanfodol.
Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol gyfun gymysg i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n gwasanaethu ardal Pont-y-pŵl a'r cyffiniau. Mae'r ysgol wedi ehangu'n gyflym iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 1200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan Ysgol Gorllewin Mynwy enw ardderchog yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Anogir pob darpar-ymgeisydd i weld ein gwefan... www.westmonmouthschool.com Bydd y rhestr fer yn cael ei thynnu ar yr wythnos sy'n dechrau ar 24 Tachwedd 2025 Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen . Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn eu cyflwyno ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.