MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £1,657 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Clerc Llywodraethwyr Ysgol Friars

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £1,657 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOL FRIARS, BANGOR

(Cyfun 11 - 18: 1421 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.

CLERC LLYWODRAETHWYR

Swydd Barhaol.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Oriau gwaith: 99 awr y flwyddyn.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 (£1,554 - £1,657 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda'r Arweinydd Prosiect, Mrs Bethan Roberts, Rhif ffôn: 01248 364690

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364690;

e-bost: bethan.roberts@friars.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: 10 O'R GLOCH, DYDD MAWRTH, 4YDD O DACHWEDD, 2025

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
Addysgwyd i lefel TGAU (neu gyfwerth)
Parodrwydd i fynychu hyfforddiant perthnasol (e.e. clercio, llywodraethu ysgolion, diogelu)
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r cymhwyster/hyfforddiant ar gyfer Clercod Llywodraethol o fewn cyfnod o flwyddyn o ddyddiad y penodiad.

DYMUNOL

Cymhwyster cydnabyddedig neu brofiad blaenorol ym maes gweinyddiaeth.
Wedi mynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr yn y gorffennol.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o waith gweinyddol, yn ddelfrydol mewn lleoliad addysg neu lywodraethu
Profiad o baratoi agendâu, cymryd cofnodion cywir, a rheoli cofnodion cyfrinachol
Profiad o weithio gydag uwch randdeiliaid a chynnal safonau proffesiynol
Profiad o weithio'n annibynnol a rheoli therfynau amser

DYMUNOL

Ymwybyddiaeth o faes Llywodraethwyr Ysgolion.
Profiad o gydweithio'n effeithiol efo gweithwyr eraill ar bob lefel.
Profiad blaenorol o weithio gyda corff llywodraethu ysgol neu mewn gweinyddiaeth addysg.
Profiad o ddefnyddio llwyfannau llywodraethu.
Cyfarwydd â pharatoi dogfennau ar gyfer arolygiadau Estyn neu gydymffurfiaeth.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol.
Sgiliau trefnu rhagorol gyda sylw cryf i fanylion
Dealltwriaeth o neu barodrwydd i ddysgu am lywodraethu ysgolion, fframweithiau statudol, a deddfwriaeth addysg berthnasol
Y gallu i ddehongli rheoliadau a pholisïau, a darparu cyngor clir i lywodraethwyr

Dealltwriaeth a gwybodaeth am ddiogelu data a GDPR
Ymwybyddiaeth o egwyddorion a gweithdrefnau diogelu.

Y gallu i ddrafftio cofnodion a gohebiaeth gywir
Hyderus yn y defnydd o TG (e-bost, MS Word, llwyfannau cyfarfod ar-lein fel Zoom/Teams)

Y gallu i aros yn ddiduedd a chadw cyfrinachedd.
Y gallu i weithio'n annibynnol, rheoli llwyth gwaith eich hun ac ymateb yn hyblyg i flaenoriaethau sy'n newid

DYMUNOL

Gwybodaeth am drefniadaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion.

Cyfarwydd â pholisïau ysgolion, cyfrifoldebau statudol llywodraethwyr, a deddfwriaeth addysg

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Yn gallu cyd-weithio fel aelod o dim.
Yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gydag ystod o randdeiliaid
Y gallu i gyrraedd targedau penodol.
Hunan-gymhellol a rhagweithiol (gweld gwaith)

Dibynadwy, proffesiynol a diplomyddol wrth ddelio ag ystod o randdeiliaid (e.e. llywodraethwyr, SLT, asiantaethau allanol)
Synhwyrol a dibynadwy
Dibynadwy, prydlon, a hyblyg
Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol a chadw i fyny â newidiadau deddfwriaethol

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS Y SWYDD Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Darparu gwasanaeth Clerigol i'r Corff Llywodraethol.

Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio'n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL

1.Cyd-weithio gyda'r Cadeirydd a'r Pennaeth ar gynnwys rhaglen cyfarfodydd gan ddarparu papurau cefndir ar gyfer y cyfarfodydd hynny - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

2.Darparu ac anfon rhaglen i aelodau'r corff llywodraethu - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

3.Gwirio gyda'r Cadeirydd ar unrhyw faterion y gweithredwyd arnynt rhwng cyfarfodydd ac sydd angen eu hadrodd i'r corff llywodraethu.

4.Mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu llawn yn ogystal â'r is-bwyllgorau statudol gan gymryd cofnodion priodol (hyd at 6 cyfarfod yn flynyddol yn unig). Gall y Clerc hawlio tal ychwanegol i glercio cyfarfodydd ychwanegol.

-Mae'n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o'r Corff Llawn yn dymhorol
-Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda'r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn
-Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn

5.Sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw a bod y wybodaeth hynny yn hysbys i'r Awdurdod Lleol.

6.Cynhyrchu ac anfon copïau drafft o'r cofnodion i'r Pennaeth cyn creu fersiwn derfynol i'w ddosbarthu i bob aelod o'r Corff Llywodraethu a ALl.

7.Cofnodi presenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd a rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg presenoldeb.

8.Cadw cofnod o dymor gwasanaeth pob llywodraethwr gan gysylltu â'r Awdurdod Lleol ar achlysuron pan fo cyfnod gwasanaeth yn dod i ben, neu pan fo ymddiswyddiadau.

9.Gohebu ar ran y Corff Llywodraethu, yn ôl yr angen.

10.Cadw trefn ar gofnodion, gohebiaeth a dogfennau eraill yng nghyswllt gwaith y corff llywodraethu.

11.Cynorthwyo'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu i baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.

12.Mynychu a chadw cofnodion o Gyfarfod Llywodraethwyr a Rhieni wedi dilyn cais gan y Rhieni.

13.Cynorthwyo'r Corff Llywodraethol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer Gwobrau Ansawdd i'r Corff Llywodraethol.

14.Mynychu'r cyrsiau a drefnir ar gyfer Clercod Llywodraethol, a chwblhau'r cwrs mandadol i glercod newydd. Dosbarthu gwybodaeth am hyfforddiant i'r Corff Llywodraethol, cadw cofnod o'r llywodraethwyr fynychodd.

15.Cadw cofnod manwl o'r llywodraethwyr sydd angen mynychu cyrsiau mandadol . Rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg mynychu cwrs mandadol.

16.Disgwylir i'r Clerc gadw cofnod a gofalu fod Dadleniad Datganiad Troseddol a Datganiad Buddiant pob llywodraethwr yn gyfredol.

17.Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
18.Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

19.Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

20.Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

21.Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y Swydd.

GWASANAETH CLERCIO YMGYNGHOROL ESTYNEDIG:

Bydd y Clerc yn darparu gwasanaeth Ymgynghorol ac yn ychwanegol bydd yn:

-Rhoi arweiniad ar gyfrifoldebau cyfreithiol statudol y corff llywodraethol;
-Sicrhau bod cyfansoddiad y corff llywodraethol yn gywir yn unol â gofynion deddfwriaethol;
-Trefnu drafftio, arwyddo a chynnal Offeryn Llywodraethu'r corff llywodraethol;
-Cynghori ar Offerynnau Llywodraethu, rheoliadau llywodraethu ysgol, cylchlythyrau statudol, dyfarniadau cyfreithiol perthnasol a mesurau a gysylltir â llywodraethu ysgolion a all gael effaith ar rôl y corff llywodraethol;
-Cynghori ar gymhwyster, cworymau, gweithdrefnau ethol a rheoliadau anghymhwyso;
-Rhoi arweiniad ar sefydlu, cyfansoddiadau ac adolygiad (statudol) pwyllgorau (yn cynnwys cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgorau hynny);
-Rhoi arweiniad ar faterion cyfansoddiadol a gweithdrefnol;
-Monitro pwyntiau gweithredu i'w dilyn a gohebiaeth sy'n codi o benderfyniadau a wnaed mewn cyfarfodydd;
-Sicrhau bod polisïau statudol yn weithredol, ac anfonir copïau i'r ysgol o bolisïau a dogfennau eraill sydd wedi eu derbyn gan y corff llywodraethol;
-Ymchwilio yn ôl gofyn y corff llywodraethol;
-Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â'r swydd.

AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.b.)
•Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.
•Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn
•Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ôl y gofyn am dal ychwanegol
•Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr

ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS4) UWCHRADD
Paratoi ymlaen llaw cyn cyfarfod 4 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 8.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr
Cyfanswm oriau fesul cyfarfod 14.5awr
14.5awr x 6 cyfarfod = 87.5 awr y flwyddyn

Gweinyddiaeth Blynyddol (12.5 awr) - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
Gweinyddu = 12.5 awr

Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant

NODYN
•6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.
•Pe byddai'r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio goramser.
•r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio'r amser hwn yn ychwanegol.

Mae'r swydd ddisgrifiad uchod yn disgrifio pwrpas pennaf a'r prif elfennau'r swydd. Mae'n ddarlun o natur a phrif ddyletswyddau'r swydd fel mae'n bodoli yn bresennol, ond ni fwriedir iddo fod yn ddarlun holl gynhwysfawr ac nid yw yn rhan o'r cytundeb cyflogaeth.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi