MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £20,148 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 3 - Ysgol Eifionydd, Porthmadog

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £20,148 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG

(Ysgol Gyfun 11 - 16 oed, 369 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 5 Ionawr 2026

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 3

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£18,903 - £20,148 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.

Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD IAU, 13 O TACHWEDD, 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Manylion Person

-

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD: Cymhorthydd Cyflenwi ac Anogwr Dysgu ( Lefel 3)

ORIAU GWAITH: 30 awr yr wythnos

(38 wythnos tymor ysgol) ynghyd a 5 diwrnod HMS - cyfwerth a wythnos waith yn ystod gwyliau haf

Cytundeb 40 wythnos y flwyddyn.

YSTOD CYFLOG: Graddfa GS4 (Pwyntiau 7-11)

YN ATEBOL: Pennaeth

PWRPAS Y SWYDD

  • Bydd y Swyddog Cefnogi ac Anogaeth Dysgu yn gyfrifol am oruchwylio dosbarthiadau yn unol â rhestr cyflenwi'r ysgol yn ystod absenoldebau staff dysgu.
  • Sicrhau cefnogaeth i ddisgyblion unigol ac i grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
  • Cyfrannu at gylch cynllunio'r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
  • Cefnogi yn y swyddfa yn foreol am gyfnod byr.

Bydd yn gweithio fel rhan o dîm o staff ategol ac yn rhannu'r dyletswyddau canlynol:-

PRIF DDYLETSWYDDAU

Anogaeth dysgu

  • Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
  • Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynlluniau Dysgu Unigol (CDU) disgyblion unigol.
  • Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda'r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
  • Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
  • Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
  • Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill. Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
  • Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.

Cefnogaeth dosbarth

  • Sicrhau bod unrhyw waith sydd wedi cael ei osod i'r disgyblion gan yr athro/athrawes yn cael ei gwblhau yn ystod y wers.
  • Sicrhau ymddygiad da yn y dosbarthiadau.
  • Rhoi cymorth i ddisgyblion o fewn a thu allan i ddosbarthiadau gan ddilyn cyfarwyddiadau gan reolwyr yr ysgol.
  • Paratoi'r ystafelloedd arholiadau mewn cydweithrediad gyda'r gofalwr a'r Swyddog Arholiadau /Pennaeth Cynorthwyol (Systemau) mewn da bryd cyn yr arholiad.
  • Arolygu arholiadau mewnol ac allanol yr ysgol yn unol â'r rhestr ddyddiol gan sicrhau bod rheolau'r arholiad (gweler rheolau C.B.A.C. yn cael eu cadw'n gaeth.)


Cefnogaeth Ysgol

  • Rhoi cymorth i'r swyddfa ganolog yn foreol i ateb galwadau ffon a chymorth i ddisgyblion yn gyffredinol
  • Bod yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Newydd.
  • Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill, mewn cysylltiad â'r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.
  • Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd yr hunan a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
  • Darparu arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo'n briodol.
  • Cludo disgyblion drwy yrru bws mini'r Ysgol pan fo'r angen - os yn gymwys i wneud hynny.
  • Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau polisïau'r AALL ac ysgolion.
  • Cymryd cyfrifoldeb am ddisgyblion ar deithiau addysgol ac mewn gweithgareddau yn yr ysgol.
  • Dyletswydd giât a goruchwylio iard yr ysgol yn ddyddiol a chadw golwg ar y drefniadaeth.
  • Cadw golwg ar ymddygiad y disgyblion yn ystod egwyl ac amser cinio.
  • Rheoli symudiadau'r disgyblion pan ar y coridorau
  • Adrodd i'r Pennaeth / Penaethiaid Cynorthwyol ar unrhyw fater sy'n achosi pryder yn gyffredinol
  • Unrhyw ddyletswyddau pellach ar gais y Pennaeth sydd yn gydnaws â'r swydd ddisgrifiad


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi