MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Plascrug Primary School, Aberystwyth,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 26,403 - 27,694 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 26,403 - 27,694 *
Ynglŷn â'r rôlO dan arweiniad staff uwch: darparu cefnogaeth arbenigol mewn maes adnoddau penodol, gan gynnwys paratoi a chynnal adnoddau a chefnogaeth i staff a disgyblion.
Cefnogaeth i Ddisgyblion
- defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol i gefnogi disgyblion
- rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas ag ymddygiad a chyflawniad
Cefnogaeth i'r Person Cyfrifol
- creu a chynnal amgylchedd gwaith pwrpasol, trefnus a chynhyrchiol
- dylunio, paratoi a defnyddio offer/adnoddau/deunyddiau arbenigol yn amserol ac yn gywir
- cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau sesiwn/gwaith, gweinyddu gwaith cwrs, taflenni gwaith ac ati.
- cyfrannu at gynllunio, datblygu a threfnu systemau/gweithdrefnau/polisïau
- bod yn gyfrifol am gynnal cofnodion, gwybodaeth a data, cynhyrchu dadansoddiadau ac adroddiadau yn ôl yr angen
- gweithredu rhaglenni gwaith/sesiynau ymarferol penodol gyda disgyblion o dan arweiniad y Person Cyfrifol (Pennaeth)
- hyrwyddo a sicrhau iechyd a diogelwch ac ymddygiad da disgyblion bob amser
- adrodd am unrhyw bryderon diogelu
- cyfathrebu â rhieni/gwarcheidwaid
- cymryd cofrestr ddyddiol
- gweinyddu cymorth cyntaf os oes angen
Cefnogaeth i Staff y Clwb Ar ôl Ysgol
- monitro a rheoli stoc o fewn cyllideb y cytunwyd arni, catalogio adnoddau a chynnal archwiliadau yn ôl yr angen
- cynnal a chadw offer arbenigol, gwirio ansawdd/diogelwch, cynnal atgyweiriadau/addasiadau arbenigol o fewn eich galluoedd eich hun a threfnu i atgyweiriadau/addasiadau eraill gael eu gwneud gan eraill
- dangos a chynorthwyo i ddefnyddio offer/deunyddiau arbenigol yn ddiogel ac yn effeithiol
- carparu cyngor ac arweiniad arbenigol yn ôl yr angen
Cefnogaeth i'r Ysgol
- bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a chyfrinachedd, a chydymffurfio â nhw, gan adrodd pob pryder i berson priodol
- bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal at gyfleoedd i ddysgu a datblygu
- cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol
- sefydlu perthnasoedd adeiladol a chyfathrebu ag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill, mewn cysylltiad â'r Pennaeth, i gefnogi cyflawniad a chynnydd disgyblion
- mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd
- cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu rheoli perfformiad yn ôl yr angen
- cydnabod eich cryfderau a'ch meysydd arbenigedd eich hun a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill
- cynorthwyo gyda goruchwylio, hyfforddi a datblygu staff
- gweithredu goruchwyliaeth gynlluniedig o ddisgyblion y tu allan i oriau gwersi e.e. clybiau/gweithgareddau allgyrsiol
- cynorthwyo gyda chaffael, noddi, marchnata a hyrwyddo'r Clwb Ar ôl Ysgol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy