MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Pennaeth: Mrs M Ferron-Evans B.A. (Cyd-Anrh.), MSc, N.P.Q.H

Glanhawr Parhaol, Rhan Amser (Yn Ystod y Tymor yn Unig)

Mae'r llywodraethwyr yn chwilio am lanhawr parhaol. 10 awr yr wythnos (2 awr y dydd, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 3.00pm - 6pm), yn ystod y tymor yn unig.

Mae'r amrywiaeth o waith a wneir gan y staff glanhau yn cynnwys glanhau'r holl ystafelloedd, toiledau, coridorau, grisiau, swyddfeydd ac ardaloedd eraill o'r fath sy'n cael eu defnyddio yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Busnes. Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

• Cyflawni'r holl waith i'r safon ofynnol, mor aml ag y nodir ac yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Busnes.

Rhoi gwybod i'r Rheolwr Busnes am unrhyw beth sy'n debygol o effeithio ar ei waith neu unrhyw beth y mae'n ystyried y dylai ef/hi fod yn ymwybodol ohono.

Gweithio ar y cyd â glanhawyr eraill ar y safle.

Cydymffurfio ag arferion iechyd a diogelwch y Cyngor, gan gynnwys COSHH.

Cadw loceri storio, cypyrddau a pheiriannau mewn cyflwr glân a thaclus.

Defnyddio offer a deunyddiau glanhau yn y modd rhagnodedig, gan dderbyn cyfrifoldeb am yr offer a ddefnyddir a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio a'u storio'n ddiogel.

Cwblhau unrhyw waith papur gofynnol gan gynnwys taflenni amser.

Cyflawni unrhyw gyfarwyddiadau gwaith rhesymol eraill

Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.