MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £16,528 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Clerigol (Staff Ysgol)- Ysgol Eifionnydd

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £16,528 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG

(Ysgol Gyfun 11 - 16 oed, 369 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 24 Tachwedd, 2025

Cymhorthydd Clerigol (Staff Ysgol) - Ysgol Eifionnydd

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 27.5 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS2 pwyntiau 3 - 4 (£16,273 - £16,528 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.

Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD LLUN, 10 O TACHWEDD, 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Profiad
  • Gwaith clerigol/gweinyddol cyffredinol.
Cymwysterau

  • Anwytho/sgiliau sylfaenol.
  • Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.

Gwybodaeth/ Sgiliau

  • Gwybodaeth briodol o gymorth cyntaf - cymhwyster cymorth cyntaf yn ddelfrydol.
  • Dealltwriaeth dda a gallu i ddefnyddio systemau a thechnoleg berthnasol
  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi.
  • Bod yn rhan o'r broses 'Gwerthuso' yr ysgol
  • Y gallu i berthnasu'n dda gyda phlant ac oedolion.
  • Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, deall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol a'ch sefyllfa eich hun o fewn y rhain.

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD: Cymhorthydd Clerigol (Staff Ysgol)- Ysgol Eifionnydd

ORIAU GWAITH: 27.5 awr yr wythnos (rhan amser)

Tymor Ysgol yn unig

YSTOD CYFLOG: GS2: Pwynt 3-4

YN ATEBOL I: Rheolwr Busnes

PWRPAS Y SWYDD

  • Darparu cefnogaeth weinyddol fel rhan o dim ategol drwy baratoi cofrestrau dyddiol bore/pnawn, gweinyddu a monitro presenoldeb disgyblion yr ysgol ar gyfarwyddyd ac arweiniad Pennaeth Cynorthwyol (Lles) a Rheolwr Busnes

PRIF DDYLETSWYDDAU

Trefniadaeth

  • Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb, croesawu rhieni ac ymwelwyr i'r ysgol ac arwyddo ymwelwyr i mewn.
  • Rheoli mynediad disgyblion ac ymwelwyr ar gyrraedd ac ymadawiad drwy giat diogelwch yr ysgol.
  • Cynorthwyo gyda chymorth cyntaf/dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy'n sâl, cysylltu â chyfathrebu gyda rhieni/asiantaethau eraill drwy systemau yr ysgol ayyb.
  • Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau gan nyrs yr Ysgol ac asiantaethau eraill fydd yn ymweld a'r ysgol.

Gweinyddu

  • Cyfrifoldeb am archebu a gweinyddu'r wisg Ysgol, delio a thaliadau parod ynghyd a monitro drwy system taliadau ar lein yr ysgol.
  • Darparu cefnogaeth benodol o ran cynhwysiad yr Ysgol - cofnodi presenoldeb yn ddyddiol, monitro manwl ar gofrestrau ac adrodd yn ol I'r UDRh yn rheolaidd.
  • Darparu cefnogaeth weinyddol, e.e. llungopïo, ffeilio, e-bostio, cwblhau ffurflenni arferol, diweddaru taenlen llogi ystafelloedd, a derbyn incwm teithiau a.y.y.b
  • Cadw cofnodion/systemau gwybodaeth rheolaethol yn gyfredol. Sicrhau cyswllt gyda'r Colegau/Lleoliadau gwaith er mwyn sicrhau presenoldeb a lles disgyblion oddi ar safle -gan adrodd yn ol I'r UDRh yn rheolaidd.


  • Cadw cofnod/ ffrancio ac anfon y post yn ddyddiol. Yn ystod cyfnod arholiadau, paratoi pecynnau arholiadau a'u cyflwyno i'r Swyddfa Bost.
  • Pan fo teithiau penodol cysylltu gyda cwmniau bysiau er mwyn cael prisiau cymharol ac archebu bws fel bo'r angen.
  • Trefnu a gweinyddu bas-data Llyfrgell yr Ysgol i ad-drefnu ac adnewyddu llyfrau yn y llyfrgell ar y system Eclipse.


Adnoddau

  • Trefnu storio cyflenwadau'n drefnus a diogel, casglu a chadw llechres ysgol.


Cyfrifoldebau

  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau a chydymffurfio â'r rhai hynny sy'n berthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, adrodd ar bob pryder i berson priodol.
  • Bod yn ymwybodol o wahaniaethau a'u cefnogi a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth pobl broffesiynol eraill.
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol fel y bo'n ofynnol a chyfranogi ynddynt.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill yn cynnwys Hyfforddiant Amddiffyn Plant a datblygiad perfformiad fel bo'r gofyn.
  • Unrhyw ddyletswyddau pellach ar gais y Pennaeth sydd yn gydnaws ậ'r swydd.


Bydd staff ategol y swyddfa yn ymatebol yn y lle cyntaf i'r Rheolwr Busnes a thrwyddi hi i'r Pennaeth.

Bydd disgwyl i'r staff ategol weithio 10 diwrnod ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gais y Pennaeth.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi