MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 7 | £34,434 - £39,152 PRO RATA
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Arholiadau ac Ysgol Uwchradd - Ysgol Abersychan

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 7 | £34,434 - £39,152 PRO RATA

Diolch am eich diddordeb mewn ymgeisio am swydd Swyddog Arholiadau ac Uwch Swyddog Cymorth Ysgol yn Ysgol Abersychan. Yn y pecyn ymgeisio hwn mae manylion am yr ysgol, manyleb person a disgrifiad swydd. Mae'r rôl hon yn hanfodol i sicrhau llwyddiant yn ein busnes craidd, sef cyrraedd y safonau uchaf posibl yng nghanlyniadau disgyblion mewn arholiadau. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhoi'r manylion canlynol i'ch helpu i benderfynu p'un ai i ymgeisio ai peidio.

Ysgol gyfun gydaddysgol 11 - 16 oed sy'n diwallu anghenion plant o bob gallu yw Ysgol Abersychan. Rydym yn ysgol sy'n ymrwymedig i sicrhau bod ein pobl ifanc i gyd yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau'n uchel. Mae gyda ni staff ymroddedig a gofalgar iawn sy'n ymroddedig at sicrhau fod pob plentyn yn llwyddo i'w gallu pennaf. Mae gan yr ysgol 740 o ddisgyblion, 46 o athrawon a 56 aelod o staff cynorthwyol. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o amddifadedd cymdeithasol-economaidd sylweddol gyda 30% o'r disgyblion â'r hawl i Brydiau Ysgol am Ddim a 51% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae nodau'r ysgol yn cael eu cyflenwi trwy system fugeiliol gref, ymrwymiad at ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel ac amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae'r disgyblion yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn teimlo'n gadarnhaol am yr ysgol. Maen nhw'n ased gwirioneddol yn ein cymuned ac yn gyfeillgar tu hwnt. Maen nhw am gael addysg o ansawdd uchel a dod yn ddisgyblion llwyddiannus. Mae gyda ni athrawon a llywodraethwyr gwych, sy'n hynod o gefnogol wrth gefnogi'r ysgol i ddarparu'r addysg orau. Os ydych chi wedi'ch cyffroi gan y cyfle i chwarae rôl sylweddol wrth ein helpu ni i lwyddo yn ein huchelgeisiau, os ydych chi'n credu y gall pob disgybl, waeth beth yw eu cefndir neu eu gallu, lwyddo, ac os oes gyda chi angerdd dros ddarparu addysg ragorol, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Yn gyfnewid, rydym yn addo'r gefnogaeth orau i chi. Byddwch yn rhan o Dîm Busnes brwdfrydig, newydd ei sefydlu. Os oes gyda chi angerdd dros sicrhau gwelliant, yna cysylltwch â ni! Yn y cyfamser, os hoffech chi dderbyn gwybodaeth bellach, neu os hoffech chi ymweld âr ysgol, cysylltwch yn ddi-oed âr Dirprwy Bennaeth, Michael Baker trwy e-bost: michael.baker@abersychanschool.co.uk .

Dyddiad cau: Dydd Llun, 3ydd Tachwedd

Cyfweliad: Dydd Mawrth 11eg Tachwedd