MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif Raddfa + Lwfans Anghenion Arbennig 1
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro gyda Chyfrifoldeb (Canolfan Arbenigol) (Ysgol Bro Hyddgen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa + Lwfans Anghenion Arbennig 1

Athro gyda Chyfrifoldeb (Canolfan Arbenigol) (Ysgol Bro Hyddgen)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Prif Ddiben y Swydd:
Prif Raddfa + Lwfans Anghenion Arbennig 1
Pennaeth ar sail ddyddiol a gydag atebolrwydd I
Rheolwr Cynhwysiant, ar gyfer y rôl gwaith allanol.
Cynorthwywyr Cefnogi'r Ganolfan Arbenigol
Bod yn gyfrifol, o ddydd i ddydd, am Ganolfan dysgwyr ag anghenion ASD sylweddol sy'n gymhleth ac yn barhaus.

Prif Gyfrifoldebau:
1. Gwneud holl ddyletswyddau athro dosbarth fel y nodir yn adrannau perthnasol y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd).
2. Bod yn gyfrifol am waith y Ganolfan o ddydd i ddydd dan reolaeth y pennaeth a'r swyddog arwain proffesiynol a ddarperir gan yr Ysgol Arbennig leol, yn unol â chyfarwyddyd yr Awdurdod.
3. Goruchwylio a chyfeirio gwaith Cynorthwyydd Dysgu'r Ganolfan Arbenigol a staff eraill sy'n cael eu secondio i'r Ganolfan o bryd i'w gilydd.
4. Cynorthwyo gyda hyfforddi a datblygu staff er budd yr unigolyn a'r gwasanaeth.
5. Cynorthwyo wrth gefnogi'r pennaeth o ran materion rheoli perfformiad, mewn perthynas â'r ganolfan.