MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Cynradd CA2 (Ysgol Bro Hyddgen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth

Athro/Athrawes Cynradd CA2 (Ysgol Bro Hyddgen)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y

swydd hon

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen yn awyddus i benodi athro Cynradd CA2 parhaol o'r 1af o Ionawr 2026.

Dyma gyfle euraidd i ymuno ag ysgol lwyddiannus 4-19 oed. Mae Campws Cynradd yr ysgol yn safle braf ble mae cydbwysedd iach o staff profiadol ac ifanc yn gweithio. Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn ei safonau academaidd, ei dulliau dysgu ac addysgu blaengar, y cyfleoedd allgyrsiol a gynigir a'r berthynas arbennig sydd ganddynt gyda dysgwyr yr ysgol. Mae gan bob athro ystafell ddysgu ei hun ble ceir adnoddau sy'n ateb gofynion dysgu ac addysgu yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus arddangos ymrwymiad
llwyr i weithio mewn ysgol sydd yn symud ar hyd y continwwm iaith o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol benodedig Gymraeg ble bydd pob plentyn yn gadael yn medru o leiaf dwy iaith.

Dyma gyfle gwych i athro gweithgar, brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymuno ag ysgol arbennig iawn.

Croesewir ceisiadau gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth ar 01654 704200
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.