MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £12,733 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd a Gofal Symudol

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £12,733 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Margaret Rosemary Hughes ar 32581 neu dros ebost; margaretrhughes@gwynedd.llyw.cymru

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 20/10/2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)

Dim hanes o afiechyd sy'n gysylltiedig â bwyd (gweler Holiadur ar Tud D-7 o Lawlyfr y Gegin)
Dymunol
Hunan ysgogol, personoliaeth hapus

Gwybodaeth o fwyd iach a maethlon

Bod yn gymdeithasol a dangos parch tuag at eraill

Ymddangosiad glân a thaclus

Safon dda o lendid personol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol

Cymhwyster diet a maeth neu ymrwymiad i basio cwrs Lefel 2 o fewn 3 mis o'r penodiad

Trwydded yrru llawn

Perchen car ac yn barod i ddefnyddio'r car ar gyfer gwaith (gyda "defnydd busnes" ar y dystysgrif yswiriant)
Dymunol
Cymhwyster goruchwylio staff

Cymhwyster coginio

Hyfforddiant mewn sgiliau coginio

Hyfforddiant mewn sgiliau gweini bwyd

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu gymorth cyntaf

Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio mewn cegin fasnachol neu gegin debyg i gegin ysgol
Dymunol
Profiad o weithio mewn amgylchedd cynhyrchu bwyd

Profiad o gynllunio bwydlen, paratoi ryseitiau ac archebu bwyd

Profiad o gofnodi ac adrodd ar gostau arlwyo

Profiad o weithio yn unol â systemau sicrwydd ansawdd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Profiad o weithio fel rhan o dîm a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol mewn grŵp.
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da

Sgiliau marchnata bwyd
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Gweithio mewn ceginau ar fyr rybudd oherwydd absenoldeb y Cogydd. Paratoi bwyd, arolygu a gweinyddu mewn. Ar adegau, i gynorthwyo gyda pharatoi lluniaeth ar gyfer ''functions' ac yn gyfrifol am roi hyfforddiant un i un i staff y gegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Staff

• Offer
Prif ddyletswyddau
• Darparu bwyd - gan gynnwys cynllunio bwydlen, archebu bwyd, rheoli maint prydau, paratoi bwydydd a choginio.

• Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gyfynion Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd sy'n effeithio ar staff, a phobol eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld a'r safle.

• Sicirhau fod holl staff Arlwyo yn dilyn arferion gwaith da ac cedwi'r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisïau Cyngor Gwynedd.

• Trefnu ag arolygu'r gwasanaeth bwyd, yn cynnwys gweini'r bwyd.

• Arolygu staff y gegin. Pennau dylwtswyddau, trefniadau gwaith a hyfforddiant.

• Sicirahu fod pob aelod o staff y gegin wedi drbyn hyfforddiant anwytho, Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd cyn cychwyn gwaith.

• Arolygu a rheoli glanweithdra, iechyd a diogelwch.

• Diogelwch y gegin a'i chyffiniau drwy gloi ac agor y gegin.

• Sicrhau bod offer yn cael ei gynnal a'i gadw.

• Dyletswyddau clercyddol (e.e archebu cyflenwadau, cadw cyfrif stoc bwyd, llenwi ffurflenni adrodd misol, sicrhau fod y llyfr cofnodion y gegin wedi cwblhau bob dydd)

• Unrhyw ddelytswyddau arall yn ôl cais rhesymol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Bydd amylchiadau yn codi yn gofyn am baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith e.e. cyfarfod athrawon hyfforddiant mewn swydd.

• Bydd disgwyliad cyd weithio gyda threfniadau argyfwng Cyngor Gwynedd i fwydo pobl mewn argyfwng ac i symud i gegin arall i helpu allan argyfwng. I symud i geginau eraill lle mae angen cymorth.

• Gweithio mewn ceginnau yn ystod absenoldeb y cogydd neu os oes na swydd wag heb ei llenwi.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi