MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

CYNORTHWY-YDD ADDYSGU LEFEL 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Clawdd Wat

Ffordd Clawdd Wat

Garden Village

Wrecsam

LL11 2TE

Rhif ffôn: 01978 355731

Pennaeth: Mrs Fay Green

CYNORTHWY-YDD ADDYSGU LEFEL 2 - DROS DRO

Cynorthwy-ydd Addysgu

G04 £15,867

MDSA G02 G02 £1,376

RHAN-AMSER (27.5 awr ynghyd â 2.5 awr o orchudd MDSA)

TACHWEDD 2025 YN DECHRAU TAN 31 AWST 2026

Mae Llywodraethwyr Ysgol Clawdd Wat yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 brwdfrydig ac ymroddedig sy'n awyddus i chwarae rhan ymarferol yn yr Ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd uniongyrchol y staff addysgu/staff uwch, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth gyda'r athro, i gefnogi mynediad disgyblion at ddysgu a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro wrth reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen:-

• Bod â gwybodaeth a phrofiad o addysg cynradd

Bod â gwybodaeth am sut mae plant yn dysgu orau

Bod â sgiliau llythrennedd, rhif a TG rhagorol

Mae bod â NVQ Lefel 2 neu uwch yn hanfodol

Bod â dealltwriaeth o ganlyniadau dysgu ar gyfer asesu

Dangos eu bod yn gallu cydweithio gyda thîm ymroddedig.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, siaradwch gyda'r Pennaeth, Fay Green.

Fel ysgol rydym yn cynnig:-

Ysgol gyfeillgar a chroesawgar lle mae disgyblion wrth galon yr hyn a wnawn

Plant brwdfrydig hyfryd

Cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol

Tîm o staff ymroddedig a phroffesiynol

Rhieni a Llywodraethwyr cefnogol

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob swydd mewn ysgol.

(Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

DYDDIAD CAU:20/10/2025

CYFWELIADAU: 21/10/2025