MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Black Lane
Lôn Hir
Pentre Brychdyn
Wrecsam.
LL11 5FF
01978 757959

Pennaeth: Mrs Beccy Fox
E-bost: mailbox@blacklane-pri.wrexham.sch.uk

Cynorthwyydd Goruchwylio Canol Dydd

Yn ystod y tymor yn unig (38 wythnos)
6.25 awr yr wythnos

Gradfa 02 £12.65 Y Awr
I gychwyn: cyn gynted â phosib

Mae Black Lane yn gymuned ysgol hapus a gofalgar, sy'n darparu amgylchedd ysgogol lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae'r Corff Llywodraethol yn ceisio penodi Cynorthwyydd Goruchwylio Canol Dydd i ymgymryd â goruchwylio'r disgyblion yn y neuadd fwyta, ardaloedd chwarae ac adeiladau'r ysgol, ac unrhyw ddyletswyddau ategol priodol eraill, yn ystod amser cinio.

Bydd yr amseroedd o ddydd Llun i ddydd Gwener: 11.55am-1.10pm a bydd yn golygu goruchwylio plant rhwng 5 ac 11 oed.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
• Yn angerddol am weithio gyda phlant a chefnogi datblygiad eu chwarae
• Yn amyneddgar, tawel a gofalgar
• Mae ganddo ddisgwyliadau uchel o ymddygiad ac yn ymrwymedig i hyrwyddo lles
• Mae ganddo sgiliau cyfathrebu da
• Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r ysgol ar 01978 269920 neu e-bostiwch mailbox@blacklane-pri.wrexham.sch.uk.

DYCHWELWCH FFURFLENNI CAIS WEDI'U LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL NEU I'R E-BOST: mailbox@blacklane-pri.wrexham.sch.uk.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Nodwch fod pob swydd ysgol yn destun gwiriad manwl gan y GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestriad CGA ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau: 12.00pm Dydd Llun 13 Hydref 2025
Cyfweliadau: I'w gadarnhau