MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: MPS
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro / Athrawes Dosbarth Sylfaen-Ffrwd Saesneg (Ysgol Llanfair-ym-Muallt)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: MPS
Athro / Athrawes Dosbarth Sylfaen-Ffrwd Saesneg (Ysgol Llanfair-ym-Muallt)Swydd-ddisgrifiad
Athro / Athrawes Dosbarth Sylfaen-Ffrwd Saesneg
Llawn-amser a pharhaol
Yn dechrau 1af Ionawr 2026
Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol ddwy ffrwd ar gyfer plant 4-11 oed. Mae rhai o'n disgyblion yn dysgu'n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod eraill yn dysgu'n bennaf trwy gyfrwng y Saesneg. Er ein bod yn gweithredu fel ysgol ddwy ffrwd, rydym yn un ysgol ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod pob dysgwr yn cael eu hannog i uniaethu fel dinasyddion Cymru a'r byd ehangach. O fewn adeilad yr ysgol, mae wyth ystafell ddosbarth - pedair ym mhob ffrwd. Yn ogystal, mae gennym
Ddosbarth Cymorth Dysgu sy'n rhan o ddarpariaeth yr Awdurdod Lleol, Cylch Meithrin cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant cyn-ysgol, grŵp Ti a Fi ar gyfer rhieni a phlant bach dwyieithog, Clwb Gwyliau, a Chlwb ar ôl ysgol o'r enw 'Busy Bees' / Gwenyn Prysur.
Rydym yn chwilio am athro neu athrawes dosbarth llawn-amser i ymuno â'n Ffrwd Saesneg yn y dosbarth Sylfaen, gan ddechrau ym mis Medi 2026. Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig sydd:
• yn athro medrus ac effeithiol, gyda phrofiad cadarn o addysgu dysgwyr Sylfaen.
• yn meddu ar ddealltwriaeth glir o Gwricwlwm Cymru.
• yn garedig ac yn ofalgar, gyda'r gallu i ymateb i anghenion unigol pob plentyn.
• yn gosod disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad.
• yn gallu cydweithio'n effeithiol fel rhan o dîm
Gallwn gynnig:
1. y cyfle i ddod yn aelod gwerthfawr o'n tîm ysgol.
2. cefnogaeth barhaus gan uwch arweinwyr, staff addysgu a'r llywodraethwyr.
3. disgyblion cyfeillgar, brwdfrydig ac awyddus i ddysgu.
4. amgylchedd dysgu cyfoethog gyda chyfleusterau ac adnoddau da.
5. Partneriaeth gref gyda rhieni a rhanddeiliaid cymunedol.
6. Hyfforddiant penodol ar gyfer y rôl, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd ar gyfer datblygiad
proffesiynol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgelu a Gwahardd cyn dechrau'r swydd.
Gellir trefnu ymweliadau â'r ysgol drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol ar (01982) 553600 neu drwy e bostio office@builth.powys.sch.uk
Dyddiad Cau: 3/11/2025
Rhestr fer: 4/11/2025
Cyfweliad: 13/11/2025