MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

x2 Glanhawr - Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Madras

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Madras
Ffordd Owrtyn, Llannerch Banna, Wrecsam. LL13 0LU
01978 710419

Pennaeth: Mrs K. Macey

2 x GLANHÄWR
Gradd L02 (£12.65 yr awr)
(Dydd Llun i Ddydd Gwener 3:30pm-5:30pm)

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
YNGHYD AG UN WYTHNOS O WAITH YN YSTOD GWYLIAU'R HAF

Mae'r Corff Llywodraethol am benodi glanhawr ysgol i ymuno â'n tîm, gan weithio o dan gyfarwyddyd y gofalwr i sicrhau bod adeiladau'r ysgol yn lân.

Mae'r amrywiaeth o waith a wneir gan y staff glanhau yn cynnwys glanhau'r holl ystafelloedd, toiledau, coridorau, swyddfeydd ac ardaloedd eraill o'r fath sy'n cael eu defnyddio yn ôl cyfarwyddyd y Gofalwr. Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

• Gwneud gwaith i'r safon ofynnol fel y cyfarwyddir gan y Gofalwr
• Gweithio ar y cyd â glanhawyr eraill ar y safle
• Cydymffurfio ag arferion iechyd a diogelwch y Cyngor.
• Defnyddio offer a deunyddiau glanhau yn y modd rhagnodedig, a sicrhau eu bod yn cael eu
defnyddio a'u storio'n ddiogel.
• Cwblhau unrhyw waith papur angenrheidiol
• Cyflawni unrhyw gyfarwyddiadau gwaith rhesymol eraill

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth.

Nid yw'r adnodd gwneud cais ar-lein hwn ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion eto - llenwch y ffurflen gais PDF sydd wedi'i hatodi isod yn electronig os gwelwch yn dda. Os oes angen i chi lenwi'r ffurflen â llaw, argraffwch, llenwch a dychwelwch y ffurflen i'r ysgol os gwelwch yn dda.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi i'r Pennaeth yn uniongyrchol drwy'r cyfeiriad e-bost isod.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Nodwch fod pob swydd ysgol yn destun gwiriad manwl gan y GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)