MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Gradd 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn pro rata £12.85 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gofalwr Anifeiliaid Bach a Fferm Ysgol y Tu Allan i Oriau (Ysgol Brynllywarch)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Gradd 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn pro rata £12.85 i £13.05 yr awr

Gofalwr Anifeiliaid Bach a Fferm Ysgol y Tu Allan i Oriau (Ysgol Brynllywarch)
Swydd-ddisgrifiad

Am y rôl:
Darparu gwasanaeth y tu allan i oriau arferol ar gyfer Fferm yr Ysgol h.y. gyda'r nos, penwythnosau a gwyliau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â'r ysgol

Eich cyfrifoldebau fydd:
1. Bore a Nos - mynychu'r Uned Gofal Anifeiliaid Bach a Fferm yr Ysgol.
2. Paratoi bwyd a phorthiant a dŵr i anifeiliaid dan do yn ôl cyfarwyddyd y Tîm Uwch-reolwyr.
3. Gadael geifr, gwyddau, hwyaid ac ati allan bob dydd, gan sicrhau bod bwyd a dŵr ar gael bob amser.
4. Gwirio bod y ffiniau'n ddiogel a sicrhau bod anifeiliaid yn ddiogel.
5. Glanhau corlannau, cytiau, ac ati yn ôl yr angen a gosod gwelyau newydd yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol.
6. Gwirio am arwyddion o salwch neu ofid yn yr anifeiliaid, gan roi gwybod i aelod o'r Tîm Uwch-reolwyr am unrhyw bryderon.
7. Bod ar alwad gyda'r nos, penwythnosau a gwyliau mewn achosion brys, gan roi gwybod i aelod o'm Uwch-reolwyr am unrhyw bryderon.
8. Cloi anifeiliaid i mewn yn y nos.
9. Cadw cofnodion cywir o'r anifeiliaid, porthiant a meddyginiaeth.