MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Dylunio a Thechnoleg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL Y GRANGO
Allt TÅ• Gwyn
Rhos
Wrecsam
LL14 1EL
Rhif ffôn: 01978 833010
E-bost: info@grango.co.uk
Pennaeth: Ms V Brown, BA Anrh, CPCP
Cynorthwyydd Dylunio a Thechnoleg
Cefnogaeth Adnoddau Cwricwlaidd Lefel 3
GO5 £12,221 - £12,614 y flwyddyn
20 awr yr wythnos
39 wythnos y flwyddyn
Dros dro am flwyddyn
Angenrheidiol ar gyfer cychwyn ar unwaith
Rydym yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Dylunio a Thechnoleg i gefnogi gwaith addysgu a dysgu'r Adran Gelf a Dylunio a Thechnoleg.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad a gwybodaeth am ddefnyddio peiriannau ac offer, diddordeb mewn prosiectau dylunio a rhai ymarferol a bod yn hyblyg o ran y ffordd mae'n gweithio.
Ymgeisiwch trwy anfon llythyr a ffurflen gais, os gwelwch yn dda. Dylai'ch llythyr nodi sut mae'ch sgiliau a'ch profiad yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer y swydd.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Rheolwr Busnes yr Ysgol drwy e-bostio info@grango.co.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
inf@grango.co.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraegac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: 17/10/2025 12 hanner dydd