MANYLION
  • Lleoliad: Various,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arolygwr Arholiadau

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA

(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer Cyn gynted a sydd bosib.
AROLYGWR ARHOLIADAU

Swydd Achlysurol

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion blaengar a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Oriau gwaith: Achlysurol

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 2 (£12.65 yr awr + elfen o dal gwyliau).

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Dylan Davies (Rhif ffôn 01248 600291).

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais ar gael gan Mrs. Nerys Williams, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor, Gwynedd (Rhif Ffôn:01248 600291)

e-bost: rhb@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU; HANNER DYDD, DYDD GWENER, 10 O HYDREF, 2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi