MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandysul,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 32,433 - 49,944 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 32,433 - 49,944 *
Ynglŷn â'r rôlDyddiad Dechrau: Ionawr 2026
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a'r gyfadran hynod lwyddiannus fel athro/athrawes Y Gymraeg ar gytundeb llawn amser dros gyfnod mamolaeth deiliaid presennol y swydd. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda'n tîm ymroddgar.
Byddyr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Addysgu gwersi Cymraeg i Flynyddoedd 7 -10 (ystyrir cyfleoedd Bl 11-13 i ymgeiswyr profiadol)
- Angerddoldros y Gymraeg ac at ddysgu ac yn barod i fynd y filltir ychwanegol i wneud yn siŵr fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm.
- addysgwr rhagorol
- ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.
Ysgol gydol oed 3-19 yw Ysgol Bro Teifi wedi ei lleoli y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae rhyw 45 munud o daith o ddiwedd yr M4 a 30 munud o dref Caerfyrddin. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig, Gymreig gyda thua 79% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl a bron i 64% yn siarad Cymraeg yn y cartref.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy'r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o'r lleiaf i'r hynaf.
Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ac ar hyn o bryd mae 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda thua 85 yn y chweched dosbarth.
Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:
... staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio'n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O'r dysgu sylfaen i'r chweched dosbarth, mae'r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, 'Oni heuir, ni fedir', yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu'n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig.
.. mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas dros amser o ystyried eu hoed a'u gallu. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr. Mae bron bob disgybl yn y chweched dosbarth yn arddangos agweddau arbennig o gadarnhaol.
Mae arweinwyr a staff yn cynllunio'n fwriadus i fodloni nifer o flaenoriaethau lleol a chenedlaethol; er enghraifft, mae staff yn hybu'r Gymraeg a Chymreictod yn hynod o lwyddiannus. Datblygant falchder disgyblion at eu hiaith, eu hunaniaeth a'u treftadaeth yn gelfydd.
Mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy