MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL Y GRANGO

Allt TÅ• Gwyn,

Rhos

Wrecsam

LL14 1EL

Ffôn: 01978 833010

E-bost: info@grango.co.uk

Pennaeth: Ms V Brown, CPCP

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth

MPS/UPS

Dros Dro - Cyfnod Mamolaeth

Ar gyfer Tymor y Gwanwyn 2026 - Dechrau Ionawr

Ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11-16 oed

Nifer ar y gofrestr: 565

Mae'r llywodraethwyr yn dymuno penodi athro/athrawes Gwyddoniaeth (Bioleg) brwdfrydig a chreadigol.

Rydym ni'n chwilio am athro/athrawes dosbarth ardderchog sy'n awyddus i ddatblygu addysgu a dysgu rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos y sgiliau, y weledigaeth a'r brwdfrydedd i ysbrydoli disgyblion i wneud eu gorau glas. Byddan nhw hefyd yn adeiladu ar yr arferion da a sefydlwyd ac yn helpu i fynd â'r adran i gam nesaf datblygiadau cyffrous yr ysgol. Croesewir ceisiadau gan athrawon sy'n ymgeisio am eu swydd gyntaf, yn ogystal ag athrawon profiadol.

Mae Ysgol y Grango yn ysgol boblogaidd sy'n ffynnu ac mae'n gwasanaethu pentrefi Rhosllannerchrugog, Ponciau, Johnstown a Phenycae. Mae safonau ymddygiad yn uchel, mae'r staff yn wych ac mae'r rhieni'n gefnogol iawn ac yn cymryd rhan ymarferol.

Rydym ni'n chwilio am athro deinamig sy'n barod i ymuno â'n hadran Wyddoniaeth sy'n ffynnu. Rydym ni'n chwilio am rywun sy'n gallu addysgu Gwyddoniaeth ar draws CA3 a CA4 a hyd at lefel TGAU mewn Bioleg.

Ymgeisiwch drwy anfon llythyr a ffurflen gais. Dylai'chllythyr nodi sut mae'ch sgiliau a'ch profiad yn eich paratoi chi ar gyfer y swydd.

I gael rhagor o wybodaeth neu drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth.

Mae pecyn cais ar gyfer y swydd ar gael o: info@grango.co.uk, trwy ei lawrlwytho o'r dolenni isod neu o wefan yr ysgol: www.grango.co.uk

LLENWCH Y FFU RFLEN GAIS A'I DYCHWELYD YN UNIONGYRCHOL RHEOLWR BUSNES YR YSGOL.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Dyddiad cau: 17/10/2025 12 hanner dydd