MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
Cymorth i Ddysgwyr - Gofal Bugeiliol (Ysgol Calon Cymru)Swydd-ddisgrifiad
Cymorth Dysgu - Swyddog Gofal Bugeiliol
Ysgol Calon Cymru
32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn
Cyfnod penodol tan 17.07.2026
Rydym yn chwilio am Swyddog Gofal Bugeiliol sy'n ysbrydoledig, yn greadigol ac yn rhagorol i ymuno â'n tîm deinamig ac i gael effaith ystyrlon ar brofiadau addysg a dysgu ein dysgwyr.
Y Rôl:
Fel Swyddog Gofal Bugeiliol Cymorth Dysgu, byddwch wrth wraidd cefnogi anghenion llesiant a dysgu ein disgyblion. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i ddysgwyr sydd angen cymorth bugeiliol, gan weithio'n agos gyda staff addysgu, rhieni ac asiantaethau allanol i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cefnogaeth.
Prif Gyfrifoldebau:
- Darparu cymorth bugeiliol rheng flaen i ddysgwyr
- Cefnogi dysgwyr gyda'u presenoldeb, ymddygiad ac anghenion addysgol.
- Gweithredu fel cyswllt strategol rhwng yr ysgol, rhieni, gofalwyr ac asiantaethau allanol.
- Gosod a chynnal disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad.
- Gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (e.e. ASD, ADHD, ac Anawsterau Dysgu Cyffredinol).
- Cefnogi'r gwaith o ddarparu dysgu gwahaniaethol ar draws sawl grŵp blwyddyn.
- Defnyddio dulliau amlsynhwyraidd ac ymarferol i wella dealltwriaeth a chadw cysyniadau.
- Ysgogi dysgwyr i gyflawni eu gwaith gorau drwy ganmol a chefnogi.
- Dilyn cyfarwyddiadau'n effeithiol gan ddefnyddio menter i ymateb i anghenion unigol y dysgwyr.
- Gweithredu strategaethau ymddygiad cefnogol yn unol ag ethos yr ysgol.
- Bod yn fodel rôl cadarnhaol a brwdfrydig i ddysgwyr a chyfrannu'n weithgar at fywyd yr ysgol.
- Profiad o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys ASD, ADHD, ac Anawsterau Dysgu Cyffredinol.
- Dealltwriaeth gadarn o strategaethau meithrin a rheoli ymddygiad.
- Dull creadigol tuag at ddysgu gwahaniaethol ac addysgu amlsynhwyraidd.
- Agwedd amyneddgar, empathig a meithringar, gyda synnwyr o ddigrifwch.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Y gallu i weithio'n hyblyg ac ar y cyd gyda disgyblion, staff a phartneriaid allanol.
- Ymrwymiad i hyrwyddo safonau uchel a chanlyniadau cadarnhaol i bob dysgwr.
Ysgol 11-18 oed yw Ysgol Calon Cymru sy'n gwasanaethu dalgylch wledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth gweithredol. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm gweithgar, cymwys ac ymroddedig o athrawon a staff cyswllt. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch, ysbryd tîm a chydweithio er budd gorau disgyblion. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn groesawgar ac yn falch o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o fod y gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegiad at y gymuned ddysgu yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon. Mae gwefan ein hysgol ( https://www.ysgolcalon.cymru/ ) yn darparu ystod o wybodaeth am yr ysgol.
Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 ac fe'i disgrifiwyd gan Estyn fel a ganlyn 'Mae Ysgol Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu digynnwrf, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o ddisgyblion yn datblygu fel unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthynas gadarnhaol gyda staff yr ysgol ac yn gyfeillgar gydag ymwelwyr.'
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Ychydig am ein hardal leol
Mae Canolbarth Powys yn cynnig cydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith mewn amgylchedd naturiol, trawiadol gyda chymunedau cyfeillgar, clos. Mae'r ardal yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon, y celfyddydau a diwylliannol megis golff, pysgota, seiclo, Gŵyl Y Gelli, a Sioe Frenhinol Cymru. Mae hefyd o fewn cyrraedd i Gaerdydd, Henffordd, Aberystwyth ac Abertawe, gyda chysylltiadau trafnidiaeth da. Yn adnabyddus am ei ddiogelwch, cyfraddau troseddu isel, tai fforddiadwy, a golygfeydd hardd, a pheidleiswyd Canolbarth Powys fel y lle hapusaf i fyw yng Nghymru yn 2017. Wedi'i amgylchynu gan goetiroedd hynafol, afonydd a mynyddoedd, dyma'r lle perffaith i'r rhai sy'n chwilio am ffordd o fyw heddychlon ac ysbrydoledig.
Dyddiad Cau: 08.10.2025
Cyfweliadau I'w gadarnhau
Dyddiad Dechrau Cyn gynted â phosibl
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lee Powell - Pennaeth office@caloncymru.powys.sch.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS