MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £51,942 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth - Ysgol Tryfan, Bangor

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £51,942 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL TRYFAN, BANGOR

(Cyfun 11 - 18; 543 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 o Ionawr, 2026

ATHRO / ATHRAWES Gwyddoniaeth

Swydd Llawn Amser Parhaol

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Disgwylir i'r sawl a benodir addysgu Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4, gyda chyfle i gyfrannu at addysgu Safon Uwch i ymgeisydd priodol.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU

(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD MERCHER, HYDREF 8FED, 2025.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau w/c: 13/10/25

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL
  • Statws athro/athrawes cymwysedig
  • Yn meddu ar radd safonol mewn maes perthnasol

DYMUNOL
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o:
  • sgiliau rheolaeth dosbarth effeithiol
  • gynnal gwersi heriol a diddorol
  • ddefnyddio adnoddau yn effeithiol
  • osod a gweithredu disgwyliadau uchel yn gyson
  • gynllunio'n llwyddiannus ac yn drwyadl
  • gyfrannu at fywyd allgyrsiol ysgol
  • gydweithredu fel aelod o dîm
  • addysgu'r pwnc hyd at Safon Uwch

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol yn y maes
  • Person egniol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
  • Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o dîm
  • Y gallu i sicrhau dysgu o'r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau cyrhaeddiad uchel
  • Y gallu i ddefnyddio asesiadau'n effeithiol
  • Sgiliau rhagorol wrth reoli ymddygiad disgyblion
  • Defnydd effeithiol o DGCh
  • Y gallu i addysgu'r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Y gallu i arwain llwyddiant a gwelliant adran trwy brosesau hunan arfarnu.

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
  • Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf
  • Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol
  • Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol
  • Y gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad

Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.

Darllen a Deall

Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.

Ysgrifennu

Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn modd gwbl hyderus

Swydd Ddisgrifiad

Swydd Ddisgrifiad Athro Dosbarth:

Prif gyfrifoldebau:
  • Paratoi gwersi pwrpasol, fydd yn ddiddorol, amrywiol o ran cynnwys ac o ran disgwyliadau oddi wrth unigolion.
  • Cychwyn a gorffen gwersi yn brydlon.
  • Ymateb yn gadarnhaol i waith disgyblion.
  • Dangos cydymdeimlad ag amgylchiadau personol unigolyn.
  • Creu awyrgylch symbylus a diddorol yn y dosbarth (a'r coridor) drwy drefnu arddangosfeydd o waith plant a phosteri ar y waliau.
  • Marcio gwaith cartref a dosbarth disgyblion yn unol â pholisi'r Adran.
  • Cadw cofnod manwl o asesiadau (a marciau) y disgyblion .
  • Cadw golwg ar gynnydd y disgyblion.
  • Marcio papurau arholiad a gwaith cwrs disgyblion.
  • Paratoi adroddiadau ysgrifenedig i rieni (yn unol â pholisi asesu'r ysgol).
  • Trafod datblygiad y disgyblion â rhieni mewn Noson Rieni.
  • Disgyblaeth gadarn a chadarnhaol, yn y dosbarth ac o gwmpas yr ysgol.
  • Ymgymryd â Hyfforddiant Mewn Swydd a Datblygiad Proffesiynol parhaus
  • Cyfrannu tuag at Gynlluniau Gwaith, hunan arfarniadau a Chynlluniau Gwella'r Adran.
  • Cyfrannu tuag at lunio polisïau'r ysgol.
  • Cyfrannu tuag at Gymreigrwydd yr ysgol.
  • Gosod disgwyliadau uchel.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi