MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Headteacher Group 2 £60,203 - £84,925 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Headteacher Group 2 £60,203 - £84,925 y flwyddyn
Pennaeth Uned Cyfeirio DisgyblionSwydd-ddisgrifiad
Mae pob Uned Cyfeirio Disgyblion yn cynnig darpariaeth addysgol i ddisgyblion 5-16 oed sy'n cael eu gwahardd yn barhaol neu sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o'u hysgol brif ffrwd yn ogystal â disgyblion eraill y mae gan yr ALl gyfrifoldeb statudol amdanynt fel merched ysgol sy'n feichiog.
Cynnig craidd pob UCD yw darparu lleoliadau tymor byr i ddisgyblion hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 gyda'r nod o ailintegreiddio yn llwyddiannus yn ôl i leoliad prif ffrwd. Yng Nghyfnod Allweddol 4 y nod yw cyflawni achrediad i gefnogi disgyblion i gam nesaf eu haddysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Beth bynnag yw cyd-destun y lleoliad, mae cynnydd pob disgybl yn cael ei asesu a'i fonitro ar bob cam o'i leoliad i sicrhau bod y ddarpariaeth yn dal i fod yn berthnasol ac yn ffocysu ar ddeilliannau.
Mae cyfrifoldeb ychwanegol y Pennaeth yn golygu gweithio gydag ysgolion partner mewn ardal ddiffiniedig (Gogledd Powys) i gynnig cyngor a chefnogaeth (hyfforddiant ac allgymorth) i ddiwallu anghenion disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae hefyd yn cynnwys sefydlu rhwydwaith aml-asiantaeth Powys ar
gyfer cymorth ymddygiad i ysgolion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â:
Karen Jenkins,
Rheolwr Cynhwysiant
karen.jenkins@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon