MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu - Canolfan Arbenigol (Ysgol Gynradd Gymunedol Maesyrhandir)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu - Canolfan Arbenigol (Ysgol Gynradd Gymunedol Maesyrhandir)
Swydd-ddisgrifiad

Am y rôl:
Gweithio o dan oruchwyliaeth gyffredinol yr Athro â Chyfrifoldeb, gan fod yn gyfrifol dros gefnogi, o ddydd i ddydd, hyd at 12 dysgwr llawn amser ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol sy'n defnyddio'r Ganolfan Arbenigol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu a'r Ysgol.

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
1. Ymgymryd â gwaith penodol sy'n cynnwys cynllunio, paratoi, darparu ac asesu gweithgareddau dysgu i ddisgyblion unigol.
2. Monitro a darparu er gofal cyffredinol, diogelwch a llesiant disgyblion gan gynnwys tasgau sy'n gysylltiedig â'u cynhwysiant cymdeithasol a darparu ar gyfer eu hanghenion gofal iechyd a chorfforol.
3. Bod yn aelod o dîm amlddisgyblaethol, gweithio o dan arweinyddiaeth yr Athro â Chyfrifoldeb.
4. Gweithio gyda'r athro â chyfrifoldeb i gynllunio gwersi, eu darparu, asesu a gwerthuso, addasu cynlluniau gwaith / gwersi fel sy'n briodol
5. Darparu rhaglenni addysgu / gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt oddi fewn i system oruchwylio cytunedig, addasu gweithgareddau yn ôl
ymateb/anghenion disgybl

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon