MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddwr Ysgol - Lefel 3

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Gweinyddwr Ysgol
Lefel 3
30 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig

Angen dechrau ar 29 Medi 2025 neu yn fuan ar ôl hynny.

Mae Llywodraethwyr Ffederasiwn Ysgolion Eglwysig Maelor yn gobeithio penodi Cynorthwy-ydd Gweinyddol profiadol i weithio ar draws ein dwy ysgol o dan reolaeth llinell y pennaeth.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio o fewn tîm yn ogystal ag ar ei ben ei hun, gan ddefnyddio ei fenter ei hun a blaenoriaethu gwaith i gyrraedd terfynau amser.
Rydym yn chwilio am rywun:
• Cynnes, croesawgar ac sy'n hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol â rhanddeiliaid yr ysgol
• Sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol da a gwytnwch
• Sydd yn dangos sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG rhagorol ar draws amrywiaeth o becynnau meddalwedd, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau cyfathrebu

Byddai profiad o weithio mewn lleoliad tebyg a gwybodaeth am systemau rheoli gwybodaeth ysgol yn fuddiol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r ysgol ar 01948 770676 neu 01978 661556
Dyddiad Cau: 12 hanner dydd, ddydd Llun 22 Medi 2025

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, ni waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad
Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.