MANYLION
- Lleoliad: Nantgarw Campus,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £26,709.00 - £28,695.00 (CALl)
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Gwasanaethau Dysgwyr a Champws. (Gallu Siarad Cymraeg)
Coleg Y Cymoedd
Cyflog: £26,709.00 - £28,695.00 (CALl)
Cynorthwyydd Gwasanaethau Dysgwyr a Champws. (Gallu Siarad Cymraeg)Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel Cynorthwyydd Gwasanaethau Dysgwyr a Champws, chi fydd wyneb cyfeillgar y campws, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i ddysgwyr a staff. Byddwch chi'n cynorthwyo gyda gwasanaethau fel cludiant, treuliau teithio, prydau bwyd am ddim, a bathodynnau adnabod dysgwyr, gan helpu i wneud bywyd myfyrwyr yn symlach ac yn fwy pleserus. Yn y rôl hon ar
flaen y tŷ, byddwch yn creu amgylchedd croesawgar ac yn sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd. Mae'n swydd werth chweil sy’n cynnig amrywiaeth, ac mae’n berffaith i rywun sy'n mwynhau gweithio gyda phobl a gwneud argraff gadarnhaol bob dydd.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk