MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £11,243 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Teithio - Cytundebau Cludiant Addysg x2

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £11,243 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Oriau Gweithio :- 07:15 tan 9:15 a 15:15 tan 17:15

Dyddiad cychwyn y swydd 3ydd o Dachwedd, 2025, neu mor fuan wedi'r dyddiad yma.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Robert John Jones ar 07384482101 neu drwy ebost RobertJohnJones@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 20/10/2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

Gofynion Hanfodol
  • Gallu cael perthynas dda gyda phlant ac oedolion.
  • Cyfranogi mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi
  • Gallu asesu unrhyw sefyllfa a phenderfynu ar y canlyniad mwyaf addas.
  • Mae gallu cyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol.
  • Byddwch yn cysylltu â rhieni / gwarcheidwaid, plant, athrawon a Chyngor Gwynedd.
  • Gallu gwneud penderfyniadau yn y fan a'r lle am ddiogelwch a lles disgyblion ar gludiant ysgol.
  • Argymell atebion i faterion a all godi ar y cludiant.
  • Defnyddio unrhyw offer i gludo plant yn ddiogel (harneisiau, rhwystrau cadair olwyn, clustogau hybu ac ati)
  • Gofynion codi a symud yn gorfforol posibl.

Gofynion Dymunol
  • Profiad o weithio gyda phlant.
  • Profiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Addysg Arbennig.
  • Gwybodaeth addas am gymorth cyntaf sylfaenol.
  • Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data.
  • Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.

Swydd Ddisgrifiad

Gofynion Y Swydd
  • Goruchwylio a gofalu am ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol ar gludiant ysgol, i ysgolion ar draws Sir Gwynedd.
  • Cynorthwyo disgyblion i fynd ar gerbydau cludiant, a mynd oddi arnynt, yn yr ysgol a'u cartrefi, neu mewn mannau casglu wedi'u cymeradwyo.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
  • Cefnogi disgyblion gydag anableddau corfforol, ymddygiadol a/neu ddysgu, i'w sefydliad Addysgol ac oddi yno, mewn dull sy'n sensitif i'w hanghenion. Gweithio i gyfarwyddiadau a roddwyd cyn dechrau'r daith.
  • Gweithio mewn cydweithrediad â'r gyrrwr, i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael eu ddarparu'n broffesiynol ac yn effeithlon, ac i ymateb yn gadarnhaol i unrhyw gais rhesymol am newidiadau a ddaw i law gan y swyddogion Cludiant addysg.
  • Sicrhau bod disgyblion yn gallu mynd ar gerbydau'n ddiogel ac yn gyfforddus, yn unol â natur eu hanabledd, yn cynnwys:-
  • Cynorthwyo disgyblion wrth fynd ar gerbydau, a mynd oddi arnynt, gall hyn gynnwys rhywfaint o godi a symud yn gorfforol (rhoddir hyfforddiant lle bo angen).
  • Sicrhau bod disgyblion yn ddiogel ac yn eistedd yn gyfforddus, gyda gwregys diogelwch wedi'i gau'n ddiogel.
  • Sicrhau'r defnydd cywir o seddi ceir / clustogau hybu / harneisiau / cloeau gwregys diogelwch os oes angen.
  • Cynorthwyo'r gyrrwr i lwytho a diogelu cadeiriau olwyn i'r cerbyd, yn cynnwys gosod rhwystrau, gwirio a goruchwylio'r lifft ar gefn y cerbyd, a mynediad ramp.
  • Bydd disgwyl i'r cymhorthydd teithio gadw unrhyw wybodaeth a rennir am amgylchiadau'r plentyn neu'r teulu'n gwbl gyfrinachol. Disgwylir i chwi weithredu gyda thact a diplomyddiaeth wrth siarad gyda rhieni / gwarcheidwaid a staff yr ysgol
  • Efallai y bydd yn rhaid i'r cymhorthydd gludo eitemau rhwng y cartref a'r ysgol. Gall y rhain gynnwys meddyginiaeth, offer, arian ac eitemau cyfathrebu. Dylid cadw eitemau'n ddiogel wrth deithio, a'u rhoi i'r aelod o staff sy'n gyfrifol ar ôl cyrraedd. Dylid cadw cofnod yn cofrestru'r holl eitemau a drosglwyddwyd rhwng y cymhorthydd a'r person y gwnaethant drosglwyddo'r eitemau iddynt, a rhaid cael llofnod.
  • Bydd rhaid i'r cymhorthydd roi gwybod am unrhyw ddamwain neu ddigwyddiad sy'n codi wrth wneud eu dyletswyddau i'r Rheolwr Cludiant Addysg, a lle gwneir cais, rhaid llenwi a dychwelyd ffurflen sy'n rhoi gwybod am y digwyddiad. Bydd disgwyl i'r cymhorthydd ymateb yn briodol hefyd i unrhyw gamymddwyn gan ddysgwyr.
  • I fynd ar gyrsiau hyfforddi perthnasol yn ôl y gofyn, gan gynnal gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o dechnegau trin penodol, wrth gludo teithwyr gydag anghenion arbennig.
  • Chwarae rhan llawn wrth i'r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy'n bwysig i bobl Gwynedd.
  • Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu'r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.
  • Gweithredu'n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu'r Tim i gyflawni yr hyn sy'n bwysig i drigolion Gwynedd.
  • Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella'r gwasanaeth gan adnabod materion sy'n rhwystro'r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
  • Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi'r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.
  • Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni'n bwysig i bobl Gwynedd
  • Cynorthwyo timau eraill i gyflawni'n bwysig i bobl Gwynedd
  • Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni'r swyddogaethau uchod.
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygiad personol er mwyn medru cyflawni'r swydd.
  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneudCyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
  • Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi