MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Cyflog Gwirioneddol - £22,556 - £23,051 y flwyddyn, yn dibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Gweithdy - Adeiladwaith, Tymor yn Unig

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: Cyflog Gwirioneddol - £22,556 - £23,051 y flwyddyn, yn dibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae Adran Adeiladwaith a Pheirianneg Coleg Meirion Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern.

Mae swydd y Technegydd Adeildwaith yn swydd annatod yn yr Adran Adeiladwaith, yn y pum maes - Gwaith Brics, Plastro, Plymio, Gwaith Coed Safle a Saernïaeth Mainc. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r staff darlithio i sicrhau bod deunyddiau ac offer yn cael eu cynnal a'u bod ar gael ar gyfer sesiynau ymarferol gyda grwpiau o ddysgwyr. Bydd hefyd yn gyfrifol am wneud yn saff bod offer yr Adran wedi eu cynnal au cadw'n iawn, ac ar ôl hyfforddiant, gwneud profion PAT ar yr offer trydanol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/226/25

Cyflog
Cyflog Gwirioneddol - £22,556 - £23,051 y flwyddyn, yn dibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn (Yn ystod Tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
28 Awst 2025
12:00 YH (Ganol dydd)