MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Prif Gogydd -Rhosymedre

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Colofn Dâl G04 Pwyntiau 5-6

£24,790 - £25,183 yn ôl cyfrannedd
£12.85 - £13.05 yr awr
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

25 awr yr wythnos (tymor sefydlog)

Ysgol Rhosymedre

Mae angen cogydd cymwys i reoli'r gwaith arlwyo yn yr ysgol gynradd hon. Ceir y posibilrwydd o ddatblygu'r gwasanaeth a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan weithredol yn hyn o beth.
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd uchod yn cynnwys:-

1. Rheoli'r gwasanaeth o fewn y cyllidebau a ddyrennir i dalu am gostau bwyd a llafur.
2. Dyletswyddau coginio medrus a dealltwriaeth o arferion coginio iachus.
3. Goruchwylio gweithwyr eraill, gan gynnwys rhannu dyletswyddau, gosod rota gwaith a hyfforddiant.
4. Goruchwylio'r gwasanaeth bwyd, rheoli dognau a chyflwyno bwyd.
5. Dyletswyddau clercol cysylltiedig.
6. Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
7. Hyrwyddo'r gwasanaeth bwyd i gwsmeriaid.
8. Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.