MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athrow/ Athrawes - Cyfnod Sylfaen

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Maes Y Mynydd
Pentredwr
Rhosllanerchrugog
Wrecsam
LL14 1DD
Rhif Ffon: 01978 832970
Pennaeth: Mr D Lloyd
Ebost: mailbox@maesymynydd-pri.wrexham.sch.uk
Athro Cyfnod Sylfaen
Dros dro: Contract 0.5 - 5 bore
Mae gan Ysgol Gynradd Maes y Mynydd gyfle i lenwi swydd addysgu yn ein hadran Blynyddoedd Cynnar dros dro, i ddechrau ar 6 Hydref 2025. Swydd athro dosbarth meithrin fydd hon, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â'n hathrawes dosbarth derbyn.
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Maes y Mynydd yn dymuno penodi ymarferydd dosbarth brwdfrydig, ysbrydoledig a llawn cymhelliant i'r swydd uchod. Mae Ysgol Maes y Mynydd yn ysgol ofalgar ac ymroddedig, sy'n cyrraedd safonau uchel o ran dysgu a lles disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• Credu mewn dull cyfannol o addysgu a dysgu lle mae lles disgyblion wrth wraidd eu hymarfer.
• Dangos disgwyliadau uchel a dealltwriaeth o'r ystod amrywiol o anghenion dysgu ac ymddygiadol sydd gan blant.
• Ymwybodol o fentrau newydd o fewn addysgu megis y Cwricwlwm i Gymru a Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
• Meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol i weithio fel rhan o dîm y Cyfnod Sylfaen a thîm yr ysgol gyfan, gan reoli a chefnogi cynorthwywyr addysgu yn effeithiol a chyfathrebu'n dda â rhieni/gwarcheidwaid.
• Hyderus ac yn greadigol wrth ddefnyddio technoleg ddigidol.
• Barod i chwarae rhan weithredol ym mywyd ehangach yr ysgol.
• Hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant a thraddodiadau Cymru fel rhan o'u harfer dyddiol.
Anogir y rheiny sydd â diddordeb i fynd i wefan ein hysgol i gael rhagor o wybodaeth am yr ysgol neu i ddod i ymweld â'r ysgol.
CERDDED O GWMPAS: Dydd Gwener 18 Gorffennaf am 10.00 a.m., trwy apwyntiad. Ffoniwch yr ysgol i gadarnhau eich presenoldeb - 01978 832970 neu anfonwch e-bost at mailbox@maesymynydd-pri.wrexham.sch.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, siaradwch â'r Pennaeth, Mr David Lloyd drwy ffonio 01978 832970
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod: mailbox@maesymynydd-pri.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 2 Medi 2025 am HANNER DYDD
Arsylwadau Addysgu: Dydd Iau 4 Medi 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 5 Medi 2025