MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Ysgol Gymunedol Doc Penfro

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata

Gradd 3 - £24,027 am 28.75 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig, sef am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £16,399.48 pro rata.

Mae'r corff llywodraethu yn dymuno penodi cynorthwyydd cymorth dysgu medrus a llawn cymhelliant i weithio gyda'n disgyblion yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro.

Bydd yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fodloni'r canlynol:

  • Bod yn angerddol dros ddysgu plant ac arwain trwy esiampl
  • Bod â disgwyliadau uchel o ddisgyblion
  • Dangos ymroddiad i hyrwyddo tegwch ac ethos cynhwysol i sicrhau'r safonau uchaf posibl ar gyfer pob disgybl
  • Arddangos sgiliau rhyngbersonol rhagorol, brwdfrydedd, hyblygrwydd ac egni
  • Bod yn gadarn ac yn ddibynadwy
  • Mwynhau'r heriau a'r llwyddiannau y mae bywyd ysgol yn eu cyflwyno

Gallwn gynnig y canlynol i chi:

  • Cymuned ysgol gynnes a chefnogol ag ethos teuluol cryf yn sail iddi
  • Cefnogaeth tîm gweithgar ac ymrwymedig o staff a llywodraethwyr
  • Plant hapus sy'n awyddus i ddysgu
  • Amgylchedd dysgu sydd â llawer o adnoddau
  • Wythnos waith anghymesur gydag amser penodol ar gyfer datblygiad proffesiynol, yn ogystal ag amser llesiant i gynnal y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Mae'r swydd hon am 28 awr 45 munud yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig tan 10 Ebrill 2026 yn y lle cyntaf.

Cynhelir y broses o lunio rhestr fer ddydd Mawrth 5 Awst 2025 a chynhelir y cyfweliadau ddydd Llun 11 Awst 2025. I ddechrau 1 Medi 2025.

Os hoffech ymweld â'r ysgol yn ystod y broses ymgeisio neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â'r ysgol ar 01646 684872.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.