MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Cyflog G05 gwirioneddol rhwng £20,408-£22,880 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Gwersi Ysgol John Bright

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Cyflog G05 gwirioneddol rhwng £20,408-£22,880 y flwyddyn

Ysgol John Bright

Goruchwyliwr Gwrsi
(Cynorthwyydd Addysgu - yn cefnogi ac yn cyflwyno dysgu)

Cyflog G05 gwirioneddol rhwng £20,408-£22,880 y flwyddyn

Tymor Ysgol yn Unig - 32.5 awr yr wythnos

(Cyfweth ag amser llawn £27,711-£31,036 y flwyddyn)

Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol

Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Goruchwyliwr Llanw brwdfrydig, ymroddedig a phrofiadol ymuno â'n tîm staff llwyddiannus a blaengar. Rydym yn chwilio am gydweithiwr sydd â'r ymrwymiad, yr ysgogiad personol, y brwdfrydedd, yr empathi a'r egni a fydd yn gweithio gyda ni i gefnogi a gwella dysgu ein myfyrwyr yn ein hysgol gyfeillgar ac ysbrydoledig.

Y dyddiad cau a'r terfyn amswer ar gyfer cisiadau yw hanner nos ddydd Llun 7 Gorffennaf

Byddwch :

  • Wedi cael eich hyfforddi mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu a rheoli ymddygiad
  • Yn hunan-gymhellol, yn hynod drefnus ac yn chwaraewr tîm da
  • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn enwedig gyda phobl ifanc
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd da
  • Yn cynnig ymagwedd gynnes, ofalgar a hyblyg tuag at y rôl
  • Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae eich rôl yn ei wneud i bobl ifanc

Rydym yn cynnig:
  • Cyfleoedd rhagorol i ddatblygu'n broffesiynol
  • Ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer myfyrwyr a staff
  • Amgylchedd gwaith proffesiynol ysgogol a chefnogol
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf mewn adeilad, ac ar safle, modern a deniadol
  • Ffocws ar lesiant staff
  • Ethos 'ffenestr ar y byd' sy'n cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr.

Mae Ysgol John Bright wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol bod pob aelod o staff yn rhannu'r ymrwymiad hwn. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English